MRS. ELLEN JONES. MOUNT PLEASANT, RACINE, WISCONSIN.

Mawrth 28ain, 1893, yn 66 mlwydd oed, Mrs. Ellen Jones, gweddw William W. Jones, Mount Pleasant, Racine, Wisconsin, o'r grip.

Ganwyd hi yn Sir Gaernarfon.

Priododd yn 1850, ac ymfudodd hi a'i phriod i Racine y flwyddyn ganlynol.

Gadawodd ar ei hol chwech o blant.

Y Drych ~ Ebrill 6ed 1893.