MRS. GWEN JONES. MEDIAPOLIS, IOWA.
Mawrth 15fed, 1893, yn Madiapolis, Iowa, Mrs. Gwen Jones, priod John B. Jones.Ganwyd hi ger y Bala, Mehefin 7fed, 1822. Enwau ei rhieni oedd Robert a Grace Owens. Daeth i'r wlad hon yn 1842, a Mehefin 18fed, 1849, priododd â John B Jones, a buont byw yn llwyddianus ar eu ffarm ar Flint Creek, Des Moines County, Iowa.
Yr oedd yn fam i 12 o blant. Bu pedwar farw yn eu babandod; William yn ddyn ieuanc gobeithiol a Mary (Mrs. Archer). Y rhai byw ydynt Mrs. Hannah Lloyd, Atlanta, Iowa; Robert yn Cotter, Iowa; Mrs. Sarah Jones, Arvonia, Kansas; David O. yn Fort Dodge, Iowa; John L. ar yr hen le yn Flint Creek, a Mrs. Yohe yn yr ardal hon.
Ymunodd Mrs. Jones â chrefydd pan yn ieuanc gyda y T. C. a pharhaodd yn ffyddlon hyd y diwedd.
Cafodd gystudd trwm ond nid mor faith. Claddwyd hi yn y fyawent sydd wrth capel Gymreig Flint, lle y mae chwech o'i hanwyliaid wedi ei blaenu.
Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. Mr. Morton.
T. W. E.