MRS. HARRIET JANE JONES. PLYMOUTH, PENNSYLVANIA.

Ionawr 11eg, 1893, yn Plymouth, Pennsylvania, y chwaer ieuanc Harriet Jane Jones, merch i'r diweddar Thomas ac Elizabeth Jones. Craig-y-Pandy, Tregarth, Llandegai, Gogledd Cymru.

Ganwyd hi Tachwedd 8fed, 1870. Daeth i'r wlad hon Mai, 1889. Priododd yn nechreu Gorphenaf, 1891, gyda Robert D. Jones, yr hwn ddaeth i'r wlad hon o Gymru. Yn fuan wedi yr uniad symudasant i Plymouth, ac yno y treuliasant eu tymor byr gyda'u gilydd. Daeth y diwedd yn hynod o sydyn. Yr oedd yn ei hiechyd arferol y dydd Mawrth blaenorol; ond yn hwyr y dydd tarawyd hi gan lewyg, a pharhaodd yn ddirdyniadau am 26 o oriau, heb ei bod yn alluog i ddweyd gair. Hefyd yr oedd anhwyldeb ar ei hymenydd.

Gan fod iddi frawd a chwaer, John T Jones a Mrs, David O.Williams yn byw yn Bangor, Pennsylvania., cludwyd ei chorff yma i'w gladdu. Yr oedd y tywydd ddydd Sadwrn yn aefafol iawn; ond cafodd angladd anrhydeddus iawn. Yr oedd capel Shiloh, lle bu hi a'i phrlod unwaith yn aelodau yn llawn. Gweinyddwyd gan y Parchn. J. Hammond. B. A. ac E. Roberts.

Claddwyd hi yn nghanol syndod i a chwithdod llawer iawn o'i hadnabyddion. Mae mam a pherthynasau iddi yn yr Hen Wlad. a phriod ieuanc, brawd a dwy chwaer yn y wlad hon. Duw a'u cysuro.

Teimla y teulu yn Bangor yn wir ddiolcbgar i bawb ac yn arbenig i bobl dda Plymouth, y rhai ddangosasant garedigrwydd mawr tuag atynt yn nydd trallod. Diau fod y perthynasau yn Nghymru yr un mor ddiolchgar.
E. G. ROBERTS.

Y Drych Chwefror 2ail 1892.