MRS. JANE JONES. 1018 GATES AVENUE, BROOKLYN, NEW YORK.
Ebrill 21ain, 1893, yn nhy ei mab, Hugh Jones, dilledydd, 1018 Gates Avenue, Brooklyn, New York, yn 83 mlwydd oed, Mrs. Jane Jones, gweddw y diweddar Richard Jones, dilledydd, Cwmyglo, Llanrug, Sir Gaernarfon. Yr oedd wedi ei chyfyngu i'w gwely er's cryn amser, ac mewn angen am gymorth eraill, yr hyn a dderbyniodd gan ei mab a'i briod, y rhai a wnaethant yr oll oedd yn eu gallu i'w gwneyd yn gysurus.Cymerodd y gwasanaeth angladdol le ddydd Llun, Ebrill 24ain, yn y Bushwick Avenue Methodist Episcopal Church. Dechreuwyd trwy ganu "Jesus, lover of my Soul," yn ôl dymuniad yr ymadawedig; yna darlJenwyd rhan o'r gair santaidd gan y Parch. F. B. Upham, a chanwyd "Fade, fade each earthly tie." Pregethwyd y bregeth angladdol gan y Parch. L. B. Moore, a diweddwyd trwy ganu "Asleep In Jesus."
Cymerwyd y gweddillion i Evergreen Cemetery, yn cael eu dylyn gan y teulu ac ychydig o gyfeillion.
Gellir dweyd fod Mrs. Jones yn ddynes wir grefyddol, a chredwyf yn ddiysgog fod marw yn elw iddi. Daeth i'r wlad hon tua naw mlynedd yn ôl o Lanberis, a sefydlodd gyda ei merch yn Ashley, Pennsylvania, yr hon a gollodd ei bywyd trwy gael ei llosgi yn Granville, New York, tua thair blynedd yn ôl.
Ar ôl y brofedigaeth drom hono cychwynodd Mrs. Jones am yr Hen Wlad, a daeth i New York, ond yn rhy wan i groesi y Werydd, a gwnaeth ei chartref gyda ei mab yn Brooklyn. Duw a roddo nerth i ymgynal dan y brofedlgaeth ac i gelsio dylyn y llwybr a gerddodd hi.
CYFAILL.