MR. JOHN JONES. ARVONIA, KANSAS.

Mehefin 23ain, 1893, yn Arvonia, Kansas, o glefyd y galon, yn 80 mlwydd a 9 mis oed, John Jones, yr hwn ymfudodd i'r wlad hon yn 1869, ac a dreulload y rhan olaf o'i oes gyda John ei fab, ar ei ffarm ddwy filldir a haner i'r de o dref Arvonia.

Genedigol ydoedd o Llanfairfechan, Sir Gaernarfon Gogledd Cymru, lle yr adwaenld ef fel "John Jones yr Henar Isaf."

Gadawodd ar ei ôl dri mab ac un ferch. Claddwyd ef yn ymyl ei wraig Mary Jones yn mynwent Arvonia y Parch. J. T. Evans (T. C.) yn gweinyddu. Ei brorfiad ychydig cyn marw oedd "Byw i mi yw Crist a marw sydd elw."

Y Drych ~ Gorphenaf 13eg 1893.