MR. JOHN A. JONES. BRYN MAWR, DEERFIELD, NEW YORK.

Mawrth 13eg, 1893, yn 94 blwydd oed, John A. Jones, amaethwr, Bryn Mawr, Deerfield, New York, a chladdwyd ef yn mynwent capel Salem ddydd Iau.

Genedigol oedd o Sir Feirionydd, o'r lle y daeth i America ryw 30 mlynedd yn ôl.

Bu farw yn lled sydyn, newydd fwyta ei giniaw, heb unrhyw anhwyldeb neillduol yn ei flino heblaw henaint.

Yr oedd wedi claddu ei briod er 1889 - hithau yn 82 mlwydd oed.

Gadawodd ar ei ôl y plant canlynol: Mrs. William Ridge, Alexander, New York; Mrs. J. Baker a Mrs. Richard B. Jones, Attica, New York; Hugh J. Jones, Mrs. Griffith Jones a Miss Nellie Jones, Deerfield; Mrs. Rev. William Williams, Waterville; a Mrs. W. A. Babcock, Utica.

Y Drych ~ Mawrth 23ain 1893.