MR. JOHN OWEN JONES. GRANGER, FILLMORE COUNTY, MINNESOTA.

Ebrill 21ain, 1893, yn Granger, Fillmore County, Minnesota, mewn oedran teg, John Owen Jones.

Yr oedd ef a'i brlod wedi ymneillduo o'u ffarm yn ardal Bristol Grove er's amryw flynyddoedd i bentref Granger.

Blinid ef yn dost gan ddiffyg anadl ar amserau, a bu farw yn dawel ar ei eistedd yn ei gadair heb i neb wybod ei fod yn marw - a bernir mai rhyw fath o glefyd y galon a barodd i'w ddiwedd fod mor sydyn.

Ar ddydd yr angladd cynaliwyd gwasanaeth crefyddol yn y tŷ cyn cychwyn yn Gymraeg gan yr ysgrifenydd a chanwyd amryw benillion cymwys; yna aed a'r corff i'r capel Saesneg gerllaw, a chaed pregeth briodol i'r amgylchiad gan y gweinidog. Claddwyd ef yn mynwent Gymreig Bristol Grove, lle y gwnaed ychydig sylwadau gan yr ysgrifenydd Yr oedd yr ymadawedig yn fab i Owen ac Ann Jones, Penrhyd, a ganwyd ef yn ymyl eglwys Llanddelniolen, Sir Gaernarfon. Tachwedd 14, 1813.

Ymbriododd yn 1835 gydag un Margaret Jones o'r un plwyf. Ymfudodd i'r wlad hon yn Awst, 1846, ac ymsefydlodd yn Proscairon. Wisconsin. Bu yn byw yn Kingston a Rock Hill, ac o'r lle diweddaf y daeth i Dalaeth Minnesota. Gadawodd weddw oedranus mewn galar ac unigedd ar ei ôl, a naw o blant, y rhai sydd oll yn fyw; yr oedd chwech o honynt wedi gallu dod i angladd eu tad.

Nid oedd yr ymadawedig yn aelod mewn unrhyw eglwys ar hyn o bryd, ac yr oedd allan o'r cyfleusdra i fod y blynyddoedd diweddaf, am ei fod yn byw yn mysg y Saeson; ond cyfranodd yn ewyllysgar a haelionus at gapel Bristol Grove, ac yr oedd yn gymydog da a charedig ac yn ddyn teimladwy a thyner galon. Oherwydd ei ddiffyg anadl yr oedd yn methu cysgu, ac yn gorfod treulio llawer noson yn ei eistedd. Byddai yn darllen llawer iawn, ac nid oedd yn gallu gwneyd bron ddim arall ond darllen ei Felbi Cymraeg er's blynyddoedd, a thystiai ei fod yn cael pleser mawr ynddo. Dywedai wrth ei briod ei fod yn dra hyderus ei fod wedi cael trugaredd.

Caffed ein hen chwaer fodd i ymddiried yn Marnwr y gweddwon, ac ymnerthu yn y gras sydd yn Nghrist Iesu ac yn nghadernid ei allu ef o hyn hyd ddiwedd ei thaith.

Yr oedd yr ymadawejlg yn gefnder, os ydym yn coflo yn iawn, i'r Parch. Erasmus W. Jones, Utica.
O. R. MORRIS.

Y Drych ~ Mai 11eg 1893.