MRS. MARY ANN JONES. PENIEL, OSHKOSH, WISCONSIN.

Mawrth 7fed, 1893, yn ardal Peniel, ger Oshkosh, Wisconsin, Mrs. Mary Ann, priod Richard G. Jones.

Ganwyd hi ger capel Sion, plwyf Llandrygar, Sir Fôn. Gorphenaf 1af, 1832, yn ferch i John ac Ann Hughes, ac wyres i'r enwog Richard Evans, meddyg esgyrn.

Ymfudodd ei rhieni i America yn haf 1844, ac ymsefydlasant yn ardal Waukesha, Wisconsin.

Daeth eu tŷ yn ganolbwynt i'r sefydlwyr, ac yno y cynelid ysgol Sabboth a moddion pregethu hefyd am dymor. Wedi rhai blynyddau daethant yn mlaen i ardal Osbkosb. Gelwld eu tyddyn yn Cilmaenen, enw sydd eto yn barchus iawn yn y sefydliad.

Yr oedd y fam yn hynod fel meddyg, a'i thad yn hynod fel diacon ffyddlon, a'r teulu oll yn hynod o garedig. Tyfodd y chwaer hon i fyny yn brif addurn y teulu. Heblaw cyfiawnder o synwyr a thymer dda, meddai dduwioldeb diamheuol.

Priododd yn yr Arglwydd, a magodd ei dwy ferch yn ei addysg a'i athrawiaeth ef. Cafodd gystudd trwm, yr hwn a droes yn pneumonia, ond dyoddefodd yn dawel, gan ddatgan fod pobpeth yn barod. "Mewn ffydd y bu farw y rhai hyn oll." Dygwyddodd y ffyrdd fod yn gauedig bron gan eira adeg ei hangladd. Ar y ffordd i'r gladdfa ger Bethesda, trowyd i Peniel i gynal gwasanaeth crefyddol, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. J. K. Roberts, R. Foulk Jones, a'r ysgrifenydd.

Hefyd am ddau o'r gloch Sabboth y 19eg, yn Bethesda, traddodwyd dwy bregeth goffadwriaethol gan Mr. Roberts a'r ysgrifenydd oddiar Luc Vii. 47, a Luc xii. 40. Amlygodd yr ardal gydymdeimlad mawr a'r priod, y merched, a'r perthynasau yn eu colled a'u dwys hiraeth ar ei hol.
DAVID DAVIES.

Y Drych ~ Mawrth 30ain 1893.