MRS. WINIFRED JONES. LANNON, WISCONSIN.

Chwefror 21ain, 1893, yn Lannon, Wisconsin, Winifred, anwyl briod John Jones, yn 46 mlwydd oed.

Merch ydoedd i'r diweddar Owen Roberts, clochydd, a'i briod, Pwllheli Gogledd Cymru.

Priododd Mr. Jones Ebrill 22ain, 1868, yn eglwys St. Pedr, yn ei thref enedigol, lle yr oedd yn adnabyddus iawn ar gyfrif ei thalent; gerddorol.

Symudodd hi a'i phriod i ardal Penmaenmawr, a thua wyth mlynedd yn ôl ymfudodd y teulu i'r wlad hon, a sefydlasant yn Utley, Wisconsin; oddiyno i Lannon tua thair blynedd yn ôl.

Ganwyd iddynt 13 o blant, naw yn awr yn fyw i alaru am fam dyner a gofalus. Y mae iddi frawd a chwaer yn y wlad hon, a brawd a dwy chwaer yn Liverpool, a chwaer arall yn Bangor, Gogledd Cymru.

Ni fu Mrs. Jones yn wael ond tair wythnos. Enyniad yn yr ystumog ydoedd ei hafiechyd ar y cyntaf, ond yn mhen dwy wythnos fe anwyd iddi faban, yr hwn amgylchiad a'i dygodd i wendid mawr, ac angeu a orfu.

Un o nodweddion amlwg ei chymeriad oedd caredigrwydd cymdelthasol, a chan iddi gael aml a blin gystuddiau yn ei theulu lluosog, byddai ei chyngorion a'i gwasanaeth yn werthfawr i'w chymydogion mewn achoslon o afiechyd. Hoff waith ganddi yn Utley a Lannon fyddai gweinyddu croesaw i weinidogion y Gair, a byddai ei thŷ bob amser yn ganolbwynt i'r frawdoliaeth Gymreig. Byddal bob amser yn llawen a dyddanus. Ymboenodd lawer i ddysgu i'w phlant yr ysgrythyr Lan a'u hyfforddi i ganu; a chanodd lawer ei hunan. Yr oedd ganddi lais treiddiol a pheraidd.

Credwn iddi feddianu y nefol wlad. Cafodd angladd anrhydeddus, yr ardalwyr o bob cenedl a chredo wedi ymgynull i dalu y gymwynas olaf iddi. Gwelsom rai heblaw y perthynasau o bell, sef Mrs. John O. Jones a Richard T. Williams o Racine, ac eraill.

Gwasanaethwyd gan y Parchn. McKey, Menomonce Falls, a John E. Jones, Milwaukee.
THOMAS E. JONES.

Y Drych ~ Mawrth 16eg 1893.