MR. JOHN G. MORRIS. ROME, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Rhagfyr 8fed, 1893, yn nhy ei fab Griffith, yn Amsterdam, New York, John G. Morris, yn 74 mlwydd oed, o'r grip. Ni bu yn sal ond ychydig o amser. Yr oedd yn ddyn cryf ac iach, yn arfer pwyso yn agos i ddau cant.Daeth i'r wlad hon pan yn ddyn lled ieuanc o, Tyhawel, plwyf Aberdaron. Bu yn gweithio yn ardaloedd Floyd, ac yno fe briododd ferch i Thomas Andrews. Bu yn ffarmio yn Floyd am rai blynyddau, ac yna fe werthodd ei fferm a symudodd i Rome. Bu yn rhentio amryw ffermydd am rai blynyddau.
Collodd ei wraig tua 13 mlynedd yn ôl. Yr oedd ganddo dri o fechgyn ac un lodes, yr hon fu farw ychydig o flynyddoedd ar ôl ei mam. Symudodd y bechgyn o Rome i Amsterdam, ac aeth eu tad yno atynt, a gyda Griffith y gwnaeth ei gartref am weddill ei oes.
Yr oedd yn ddyn caredig fel cymydog a thad, yn meddwl llawer iawn o'i blant. Mae ganddo frawd a chwaer yn yr Hen Wlad, a llawer iawn o perthynasau yn ardal Penycaerau a chylchoedd Aberdaron - hen deulu Cadlan Isaf.
Dydd Sadwrn canlynol claddwyd ef yn mynwent Wright's Settlement, rhwng Floyd a Rome, yn ymyl ei briod a'i ferch. Gweinyddwyd gan y Parch. D. E. Pritchard, Rome.