MRS. ELLEN OWEN. FAIR HAVEN, VERMONT.

Pan y mae y byw yn symud yn araf o'r naill feddfaen i'r llall ar heolydd tawel dinas y meirw, y ddau air cyntaf mae'n weled ar y beddfeinî ydyw "Er Cof," ac y maent yn codi y marw o'i fedd yn fyw i rodio yn y cof.

Ganwyd a magwyd y wraig hon yn Bethesda, Arfon, Gogledd Cymru. Yr oedd ei mam yn wraig grefyddol, ac yn un o seintiau dysgleirlaf ei phrofiad crefyddol yn eglwys luosog y Methodisílaid yn Jerusalem.

Crydd oedd ei thad, ac yn gwneyd masnach helaeth yn mhlith y chwarelwyr. Mae mwy o nifer o gymwynaswyr cymdeithas wedi dod oddiwrth y gelfyddyd hon nag unrhyw gelfyddyd arall. Ai tybed fod a wnelo y ffaith hon a gwrthrych hyn o gofiant? Pa fodd bynag, yn swn morthwylio y gareg lin a'r lledr y magwyd yr eneth brydweddol a hawddgar Ellen Williams, yr hon fu yn ddiarebol o gymwynasgar ar hyd ei hoes.

Daeth dau neu dri o'i brodyr i'r wlad hon pan nad oedd hi ond ieuanc; a phan oedd tua 17 mlwydd oed, daeth hithau ar eu hol, ac i ardal chwarelau Fair Haven, Vermont, y daeth, ac yma y treuliodd ddyddiau dedwydd ei morwyndod yn ddichlynaidd ei rhodiad, hyd nes yr ymunodd mewn glan briodas â Mr. William M. Owen, dyn ieuanc o gymeriad rhagorol, yr hwn a ddaeth yma o Pennsylvania tua yr un adeg ag y daeth hithau. Yr oedd Mr. Owen, trwy ei ddarbodaeth a'i enillion, wedi prynu lotiau ar y brif heol yn y dref. Yn fuan ar ôl iddynt briodi, yr hyn a wnaed Mai 2ail, 1856, adeiladodd ei dy hardd o briddfeini ar un o'r lotiau, a symudasant iddo i fyw, lle y codasant bedwar o blant, sef John, Kate Robert ac Eddie; hefyd mabwysiadwyd ganddynt blentyn i chwaer Mrs. Owen (priod Robert J. Roberts), yr hon a gollodd ei mam pan yn blentyn. ac a fagwyd fel un o'i phlant ei hun.

Mae John a Robert yn aros yn Chicago, ac yn fasnachwyr llwyddianus yno; Kate yn briod â Mr. B. Lewis, ac yn byw yn Fair Haven yn y tŷ lle ei magwyd; ac Eddie gartref gyda'i dad, yn nghyd a'r eneth Ellen, yr hon sydd yn gofalu am y cartref llawn a chysurus a adawyd gan ei hanwyl fodryb. Adeiladodd Mr. Owen breswylfod newydd hardd amryw flynyddau yn ôl yn ymyl yr hen dŷ, a chlywais Mrs. Owen yn cwyno un adeg ei fod yn rhy fawr ganddi hi ar ôl i'r plant eu gadael, ac meddai, "Ond ni ddylwn rwgnach; dyna fel y mae hi yn yr hen fyd yma o hyd; wiw rhoi fawr o hyder ar ddim; mae'n chwith gweled lle y plant yn wag wrth y bwrdd, ond maent oll yn fyw a gobaith eu gweled yr wan ac yn y man, a dylwn fod yn ddiolchgar i Dduw am hyny."

Bu eu cartref yn y dref yn fan cyfarfod y Cymry am lawer o amser, yn ymyl yr hwn yr adeiladwyd y capel Cymreig undebol cyntaf, ac yn yr hwn y bu y Cymry yn addoli Duw eu tadau yn gyweithas a'u gilydd am lawer o flynyddoedd; ac y mae yn hysbys i lawer mai eu cartref hwy oedd y tŷ capel, a bu yn gartref ac yn swcwr i achos yr Arglwydd pan nad oedd ond ychydig o Gymry yn byw yn y dref. Y mae llawer o'r hen sefydlwyr yn ddiau yn cofio pa mor werthfawr fu eu tŷ iddynt, a'r modd yr oedd Mrs. Owen yn gweini wrth fodd ei chalon er eu cysur.

Bu y ddau yn arwain yr achos goreu fel hyn yn ffyddlawn; a phan yr aeth y cynulliad yn rhy luosog, adeiladodd yr M. C. gapel newydd yr ochr arall i'r heol. Yma y gwnaethant eu cartref, a bu eu hysgwyddau dan yr arch am amser maith. Dewiswyd Mr. Owen yn un o flaenoriaid y capel, yr hwn sydd yn weithiwr tawel, ond o'r golwg hyd y gallo. Nodweddir ef gan bwyll ac arafwch, a nodweddid ein chwaer gan dymer wahanol, sef ffrwsteiddrwydd a bywiogrwydd; ond yr oedd y nodweddau gwthwyneb hyn wedi ymdoddi i'w gilydd yn eu hundeb a'u hanwyldeb o'u gilydd fel gŵr a gwraig, nes gwneyd eu gyrfa trwy helyntion bywyd yn ddedwydd neillduol.

Yr oedd yr elfenau hyn ynddynt fel dwfr a thân, yn cynyrchu agerdd i weithio y peiriant teuluaidd yn effeithiol ac esmwyth. Yr oedd Mrs. Owen yn feddianol ar elfenau gwraig rinweddol yn naturiol, yr hyn sy'n werthfawrocach na'r carbwncl; calon ei gŵr a ymddiriedodd ynddi, hi a wnaeth iddo les ac nid drwg."

Llinellau mwyaf amlwg yn mywyd prysur ein gwrthddrych oeddynt, gweithgarwch, glanweithdra, caredigrwydd a ffyddlondeb. Gweithiai yn ddiarbed. Pa beth bynag yr ymaflai ynddo i'w wneuthur, gwnai a'i holl egni; nid allai fod yn glaiar gyda dim, a byddai graen ar yr hyn a wneid ganddi. Nid allai oddef gronyn o aflendid yn agos ati; yr oedd ei thŷ yn nodedig o lân. Nid oedd ball ar ei charedigrwydd i'w chymydogion. Byddai hi y gyntaf un, ac yn aml yn rhedeg, i alw i weled y claf, y tlawd a'r profedigaethus yn yr ardal. Byddai ei chalon a'i llaw yn agored yn wastadol i gynorthwyo y rheibus, a medrai rywfodd, trwy ei hynawsedd a'i thiriondeb, roddi mor esmwyth a dirgelaidd fel na theimlai y derbynydd ei fod yn cael cardod.

Dywedodd gwraig yn y dref wrth yr ysgrifenydd, na welodd neb erioed yn gallu bob amser roddí pethau i'r pwrpas yn debyg iddi. Pan oedd ei phlant yn fychan, a dim ond enillion ei phriod i gyfarfod pob gofyn, ac i ddiwallu saith o honynt; eto, ni byddai yn myned i dŷ yr angenus yn waglaw. Dywedwyd wrthyf y byddal ar adegau yn myned a wyau, a.y., ac yn eu cyfranu i'r tlawd. Pan y gwnal hi ffrynd o rywun, gellid ymddibynu ynddi trwy bob croesau; glynai wrth ei chyfeillion yn aml trwy lawer o ffaeleddau ynddynt. Nid pob awel a'i chwythai hi i gefnu ar ei chyíelllion. Pan welai fai mewn unrhyw un, dywedai hyny wrtho yn ei wyneb yn blaen; ac os tybiai hi y byddai angen, dywedai yn bur finiog hefyd, ond byth air bach yn nghefn neb. Pan y byddai yr un a gyhuddai wedi troi oddiwrthi, dywedai hi rhyw air bach caredig am dano yn union. Nid absenodd neb erioed a'i thafod. Yr oedd yn yr ardal yn cael dweyd pethau na oddefid i neb arall eu dweyd; pe gwnelai eraill hyny, buasent yn achosi tramgwydd. Er mor llym y byddai weithiau, ni welais neb yn digio wrthi.

Cofiaf yn dda am dani yn ceryddu ei hen gymydog hoff E. D. Jones unwaith; ond pan droes ei chefn a'i adael, dyna ddywedodd yr hen gymeriad gwreiddiol E. D. "Mae Ellen yn finiog iawn a'i thafod, hogia anwyl, ond mae hi yn onest - mae hi yn onest, hogia anwyl; 'tae hi yn fy lladd i, fedrwn ni ddim digio wrthi, na fedrwn wir."

Am a wn i mai ei phriod a welais i yn dod agosaf i ddigio wrthi. Byddai ef rhwng rhyw ddifrif a chwareu yn dwrdio weithiau am ei bod mor gâs wrth bobl; ond bu dda ganddo lawer tro droi ei gefn, a gwueyd gwar, a rhedeg allan i chwerthin, am y gwyddai na ddywedai ddim yn gâs yn ei gefn!

Yr oedd eu hamgylchiadau bydol yn gysurus iawn er's llawer o flynyddoedd - eu diwydrwydd wedi ei goroni a llwyddiant, a'r byd yn gwenu arnynt. "Rhywun a wasgar ei dda, ac efe a chwanegir iddo." Credai hi a gweithredai yn unol a'r hen reol o roddi yn unol a'r llwydd; ond yr oedd ei phriod gyda hyn, fel gyda phob peth arall, yn bur bwyllog a dystaw. Y mae digon o dystion yn y dref a'r amgylchoedd a fedrant brofi i haelioni Mr. Owen loni calon aml i weddw ac amddiîaid lawer adeg; ond gwnelai y cwbl heb waeddi o'i flaen, ond yn ddystaw. Nid oedd yn symud yn mlaen gyda'r oes yn ddigon cyflym gan ei briod, yn enwedig gyda dilladu ei hun a chanlyn y ffasiwn.

Cofiaf am un adeg yr oedd Mr. Owen a minau i fyned i Gyfarfod Ysgolion Sabbothol i Middle Granville, oud ni chaniatai, Mrs. Owen iddo fyned os na phrynai bar o ddillad newydd. "Chewch chi ddim mynd o'r tŷ yma, W. O., hefo yr hen siwt lwyd yna (meddai), na chewch wir; ewch a phrynwch un newydd." A rhwng bodd ac anfodd prynwyd dillad newydd, ac aed i'r cyfarfod. Ond ar ôl dod adref cwynai Mr. Owen nad oedd wedi cael dim hwyl gyda ei araeth - fod y bobl yn y cyfarfod yn edrych mwy ar ei ddillad newydd nag oeddynt yn wrandaw ar ei araeth, ac meddai, "A phe buasai y ddynes yma yn gadael llonydd i mi hefo yr hen siwt a fy araeth newydd, buaswn yn siwr o gael hwyl." "Hym! (meddai Mrs. Owen). Glywsoch chi rotsiwn beth a'r dyn yn rhoi y bai ar y dillad am na chafodd o ddim hwyl; ond y chi oedd yn meddwl hyny. Hym! Wrach bod nhw yno wedi diflasu ar eich araeth fel yr oeddwn inau yn y tŷ yma hefo chi bob nos, a chitha a'ch trwyn yn y llyfrau, ac yn eu tynu o'u lleoedd; byddai digon o waith i mi bob boreu eu rhoddi yn y cwpwrdd yna."

Byddai Mrs. Owen yn darllen cryn lawer ar y Beibl, y Cyfaill, a'r Drych. Bywgraffiadau oeddynt fwyaf at ei harchwaeth. Fel y mae y Beibl, onide, yn cyfarfod y natur ddynol yn hyn; cawn ei ddatguddiadau dwyfol gan mwyaf mewn ffurf o fywgraffiidau. Pan ar ymweliad a'r teulu tua phum' mlynedd yn ôl, yr oeddynt newydd gael Cofiant y Parch. Griffith Jones, Tregarth, gan R. O. Yr oedd ein chwaer yn ei ddarllen yn ddyfal, a byddai weithiau yn wylo a chwerthin yn gymysg. Yr oedd yn cael gwledd o'r fath a garai, canys yr oedd yr awdwr doniol a'r gwrthddrych, y ddau yn dod o'i "Bethesda anwyl." Meddyliai a siaradai yn barchus am ei hen gartref, ei dyddiau boreuol, a mangre beddrod ei rhieni. Nid wyf yn meddwl ei bod yn ddifai; ond yn wir yr oedd ei rhinweddau yn tra rhagori; ac fel y dywed ei phriod galarus wrthyf yn un o'i lythyau ar ôl ei chladdu, "Mae pawb yn garedig iawn wrthym, ac yn ein cysuro eu goreu, ond yn fy myw nid allaf fi gael fy meddwl o'r fynwent a'r bedd oer, a byddaf yn gweled fy hun yn frwnt yn ei gadael yno. O! bobl anwyl, mae arnaf hiraeth am dani." Dyna iaith natur yn ei nerth.

Bu ein chwaer farw Ionawr 6ed, 1893, yn 58 mlwydd a chwe' diwrnod oed. Ei hafiechyd ydoedd Catarrh on the stomach. Cafodd gystudd blin am dair wythnos. Claddwydd ei gweddillion Ionawr 9fed, a chafodd ei phlant oll fod yn ei chladdedigaeth, yr hwn oedd yn un lluosog a pharchus neillduol. Tad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon a gynalio ein cyfaill hoff a'i blant rhinweddol, yn nghyd a'i hwyrion bach oedd mor anwyl ganddi. Pan welais enwau y gwyr bucheddol a'i rhoddasant yn ei chartref cul yn Cedar Grove, sef E. D. Humphrey, Pierce Roberts, Robert R. Griffith, R. E. Lloyd, Robert J. Evans a Griffith Pugh, dyna neidiodd i fy meddwl, "A gwyr bucheddol a ddygasant Stephan i'w gladdu, a gwnaethaut alar am dano ef."
R. R. WILLIAMS

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Gorphenaf 1893.


MRS. ELLEN OWEN. FAIR HAVEN, VERMONT.

Ionawr 6ed, 1893, yn Fair Haven, Vermont, Mrs. William. M. Owen, yn 53 mlwydd oed.

Ganwyd hi yn Bethesda, Arfon, Gogledd Cymru. Ei henw morwynol oedd Ellen Williama. Daeth i America yn eneth ieuanc tua 17 oed, ac ymsefydlodd yn ardal Fair Haven, lle y priododd William M. Owen, ac y treuliodd ei holl oes.

Claddwyd hi yn Cedar Grove, mynwent y dref, dydd Llun y 9fed. Cafodd angladd barchus a lluosog neillduol.

Un o wragedd rhagorol y byd oedd hi. Bu yn hynod o brysur ar hyd ei hoes. Byddai ei thy yn lan a threfnus bob amser, ei phriod a'i phlant yn drwsiadus a gweddus. Yr oedd yn garedig iawn, yn weithgar iawn, ac yn ffyddlon iawn. Yr oedd yn grefyddwraig gyaon, daweJ, a di-rodres.

Collodd yr ardal un o'i chymwynas-wragedd goreu yn ei marwolaeth hi. Mrs. W. M. fyddai y gyntaf un bob amser i gysuro y trallodus a'r anghenus - nid á geiriau yn unig, ond trwy roddi y peth priodol i'r angen, a hyny yn hollol ddidramgwydd i'r derbynydd. Byddai yn darllen llawer ar y Beibl, y cyfaill a'r DRYCH. Pan yn ei thy un adeg cofiaf yn dda i'r DRYCH ddod i'w llaw, ac eisteddodd i edrych drosto, a sylwais iddi aros am ysbaid i edryoh ar y tudalen olaf a'i adael ac at ei gwaith. Gofynais, Ai yn niwedd y DRYCH y byddwch chwi yn dechreu ei ddarllen, Mra. O.? "Ie, o'chi bob amser; y peth cyntaf fyddaf yn eu darllen fydd marwolaethau yr Hen Wlad; byddaf yn gweled agos bob tro am rywrai o Betheada wedi marw, ond nid rhyw lawer wyf yn adnabod yno yrwan; mae mwy o'm cydnabod oddiyno wedi marw nag sydd yn fyw."

Gadawodd i alaru ar ei hol briod a phedwar o blant - dau fab mewn masnaoh yn Chicago, John a Robert W. Owen; un mab, Eddie, yn Fair Haven, ac un ferch, Mrs. B. Lewis, yn yr un ardal. Hefyd, dau frawd, Elias a Robert Williams, yn Fair Haven. Chwith iawn yw meddwl na welir Mrs. W. W. Owen eto y tu yma i'r bedd. "A'i lle nid edwyn ddim o honi mwyach." O! y lle gwag a wnaeth ei marwolaeth yn y ty, yn y capel, ac yn nhy y trallodus a'r tlawd, yn yr ardal.

Gan y bwriedir dwyn allan ei chofiant yn y Cyfaill yn fuan ni wneir ond crybwyllion er mwyn eu lluosog gydnabyddion na welant y misolyn hwnw.
R. R. WILLIAMS. L'Anse, Michigan.

Y Drych ~ Ionawr 26ain 1893