MRS. ELIZABETH OWENS. PROSCAIRON, WISCONSIN.
Gorphenaf 9, 1893, Elizabeth Owens, priod y diweddar John O. Owens. Proscairon, Wisconsin, yr hwn a fuasai farw chwe mis a 13 niwrnod o'i blaen.Cymerwyd hwy yn glaf yr un amser, ond bu hi yn dyhoeni hyd y dyddiad uchod.
Merch ydoedd i Hugh ac Ann Williams. Tyddyn-y-Baesle, Sir Gaernarfon.
Priododd Mr. Owens yn Nghymru, ac ymfudodd y ddau i America yn 1845, gan ymsefyJlu yn mhlwyf Randolph (Proscaeron).
Ganwyd iddynt 13 o blant, naw o'r rhai sydd yn fyw, sef pum mab a phedair o ferched - dau fab a merch gartref, John yn byw yn Randolph, dwy ferch yn Chicago, un ferch, sef Mrs. W. E. Thomas, yn byw dair milldir o Randolph, ac Owen J. a Hugh J. yn Minnesota. Gadawodd hefyd 9 o wyrion a 7 o or-wyrion.
Claddwyd hi ar y l0fed, ac yr oedd wyth o'i phlant yn yr angladd. Gweinyddwyd yn y tŷ ac yn y capel gan y Parchn. R. T. Roberts, Racine; Dr. H. M. Pugh, Bangor; B. F. Jones, Oshkosh, a D. R Jones, Blaenycae.
Yr oedd yr ymadawedig yn aelod ffyddlon gyda'r T C., ac yn un a fawr berchid ar gyfrif ei rhinweddau a'i chymwynasau. Yr oedd wedi darllen ei Belbl drwyddo 15 gwaith, ac nid arwynebol ydoedd ei hargyhoeddiadau crefyddol. Sicr yw fod marwolaeth yn elw iddi.