MRS. MARGARET OWENS. NEW HARTFORD, UTICA, NEW YORK.
Chwefror 14eg, 1893, yn New Hartford, ger Utica, New York, o'r parlys, Mrs. Margaret Owens, yn 50 mlwydd oed. Merch ydoedd i'r diweddar William ac Ann Hughes, Towyn, Meirionydd.Daeth i'r wlad hon yn 1871; ac yn 1877 priododd Richard Owens o Eaton, Sir Madison. Bu yn byw ar wahanol amserau yn Illon, Winfield, Morrisville, Kirkland a Waterville.
Heblaw priod, gadawodd ar ei hol bedwar o blant, James J, Wm. T., ac Annie a Lizzie; hefyd chwaer, Mrs. Jane Lewis, Utica, a phedwar brawd, John W. Hughes, Middle Settlement; Thomas D. Hughes, Waterville; Wm. W. Hughes yn Pennsylvania a Hugh J. Hughes. Pratt's Hollow, New York.
Yr oedd Mrs. Owens yn fawr ei pharch yn mhlith ei lluosog gyfeillion.
Claddwyd hi y dydd Iau canlynol yn Forest Hill Cemetery, y Parch. Thomas M. Owen yn gweinyddu.