MRS. ELIZABETH PRITCHARD. MORRIS ALLEY, HYDE PARK, PENNSYLVANIA.
Rhagfyr 1af, 1893, Elizabeth, gwraig Henry Pritchard, Morris Alley, Hyde Park, Pennsylvania.Ganwyd hi yn Bangor, Gogledd Cymru, Chwefror 2ail, 1840.
Cafodd addysg dda pan yn ieuanc, ac yr oedd yn gallu defnyddio y ddwy iaith yn rhwydd. Pan yn 24 oed ymbriododd a Henry Pritchard.
Ar ôl byw yn Mangor rai blynyddau, symudasant i Ffestiniog, a thua ugain mlynedd yn ôl, daethant i'r wlad hon, a buont yn byw yn Plymouth, Slatington a Bangor; ond yn Hyde Park maent wedi bod y 15 mlynedd diweddaf.
Ganwyd iddynt saith o blant, pedwar o'r rhai sydd yn fyw, yr ieuengaf yn 14 oed. Merch ydoedd Mrs. Pritchard i Owen Jones, plastrwr, Bangor, yr hwn oedd enedigol o Landdaniel, Môn, ac a weithiai ar stad y Penrhyn. Yr oedd ei mam yn enedigol o Bangor, merch i John Jones, Llandegai, yr un teulu a Thomas a Robert Cowper, a Pierce ac Ellis Williams. Crwrion. Mae llawer o'r teulu yn y wlad hon. Mae brawd a chwaer iddi yn byw yn agos i Bangor. Mab i chwaer Henry Jones, yr Allt, Pentir, yw Henry Pritchard, sef gwraig Hugh Jones y Wern Afr, sydd yn awr wedi ei gladdu dan domenydd chwarel v Penrhyn.
Ymunodd Mrs. Pritchard a'r Bedyddwyr yn Mangor, pan yn 14 oed, a bedyddiwyd hi gan Cefni Parry, D. D. Bu yn aelod hyd y diwedd, ac yn ffyddlon a gweithgar nes i afiechyd ei gorddiwes bedair blynedd yn ôl.
Ar ol i Dr. Williams fyned i'r Hen Wlad, bu Mr. Collins, gweinidog yr eglwys Fedyddiedig Seisnig. yn hynod ffyddlon yn ymweled â hi yn ei chystudd ac yn ei chysuro. Bu ei chartref yn gyrchfan gweinidogion y Bedyddwyr, yr oedd yn adnabyddus iawn a llawer o honynt, a byddai Dr. Williams a hithau yn cael llawer o ddifyrwch wrth fyned dros hanes hen gewri y pwlpud Cymreig. Bu farw mewn tangnefedd, a'i hymddiried yn gyfangvvbl yn ei Phrynwr.
Claddwyd hi y Sabboth, Rbagfyr 3ydd, yn mynwent y Cymry ar Washburn Street, y Parch. Thomas J. Collins yn gweinyddu, a rhan o gor eglwys y Bedyddwyr Seisnig ar Scranton Street yn canu.