MR. ESAIAH M. PRITCHARD. MINNEAPOLIS, HENNEPIN COUNTY, MINNESOTA.
Mehefin 22ain, 1893, y cyfaill cywir Esiah M. Prichard, Minneapolis, Minnesota, wedi dyoddef cystudd maith o ddwy flynedd a phedwar mis o'r darfodedigaeth.Symudodd ef a'i briod a'i ddwy eneth fach i California ddiwedd y flwyddyn ddiweddaf, yn ôl cyfarwyddyd y meddyg; ond pan ddaeth yr hin yno ychydig yn boethach nag arfer, bu dan orfod i ddyfod yn ôl i Minneapolis gyda brys.
Yr oeddwn yn adnabod Mr. Prichard yn dda er's dros naw mlynedd. Symudodd yma o Utica, New York. Ni chefais gywirach cyfaill na gonestach dyn yn neb nag a gefais ynddo ef. Dywedodd wrthyf y Sabboth olaf y bu byw nad oedd arno ofn cyfarfod a'i farnwr, a'i fod yn ymddiried ei briod a'i ddwy eneth fach i'r un gŵr a ydoedd wedi gofalu am danynt ar hyd eu hoes, yn arbenig felly yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf.
Mab ydoedd i John a Mary Prichard, Shop Pentre'r Castell, Llanberis. Mae iddo frawd yn New Rockland. Canada, ac un arall yn Virginia a brawd a chwaer yn Llanrug, sef priod Azariah Davies.
Dydd Sadwrn, y 24ain, hebryngwyd ef i dŷ ei hir gartref i Lakewood Cemetery y Parch. Joseph H. Boggess yn gweinyddu. Duw fyddo yn amddiffyn i'w briod dyner a'i dwy eneth fach yn eu profedigaeth chwerw.
WILLIAM J. THOMAS.