MR. JOHN J. PRITCHARD. ARVONIA, BUCKINGHAM COUNTY, VIRGINIA.
Mawrth 9fed, 1893, yn Arvonia, Buckingham County, Virginia, yn 50 mlwydd oed, John J. Pritchard, wedi dyoddef cystudd trwm yn dawel a dirwgnach am bum wythnos a phedwar diwrnod.Yr oedd yn enedigol o Caeglas, Llanrug, Sir Gaernarfon: ond yn y wlad hon ers tua 20 o flynyddoedd.
Yr oedd yn briod serchog a thad tyner, ac wedi rhoddi ei hunan i'w gadw yn haeddiant y Gwaredwr er's naw mlynedd.
Yr oedd ei brofiad a'i dawelwch ar ei wely cystudd yn rhoddi prawf o wirioneddolrwydd y geiriau - "Ni frysia yr hwn a gredo."
Claddwyd ef gan y Seiri Rhyddion. Gadawodd wraig ac wyth o blant i ymdaraw a'r byd. Tad yr amddifad a Barnwr y gweddwon fyddo yn lon'd ei enw iddynt.
CYMRO.