MRS. ELIZABETH ROBERTS. FOX LAKE, WISCONSIN.

Medi 24ain, 1893, yn Fox Lake, Wisconsin, Elizabeth Roberts, wedi gadael yn 74 mlwydd oed.

Ganwyd hi yn Four Crosses, Pwllheli. Priododd William Roberts, Llanystumdwy, a sefydlodd y ddau yn Talysarn, Dyffryn Nantlle, lle y bu ef farw yn 1864.

Yn nechreu 1869 ymfudodd Mrs. Roberts i'r wlad hon. Derbyniwyd hi at grefydd yn Hen Gapel y Factri, Talysarn.

Bu yn nychu am lawer o flynyddau o dan yr asthma, fel nad allai fyned i fysg torf o bobl. Gadawodd un mab yn unig ar ei hol, gyda'r hwn y cartrefai, a'r hwn sydd yn dra hiraethus.

Gweinyddwyd yn yr angladd gan y Parch. D. R Jones, yn ddoeth a phwrpasol i'r amgylchiad. Bu farw fel y bu fyw, yn dawel a didrwst.

Y Drych ~ Hydref 26ain 1893.