MRS. ELLEN W. ROBERTS. SALEM, BLUE EARTH COUNTY, MINNESOTA.
Hydref 20fed, 1893, yn Salem, Sir Blue Earth, Minnesota, Mrs. Ellen W. Roberts, yr hon ddaeth i'r wlad hon o Bethesda, Gogledd Cymru, yn Rhagfyr, 1871.Ymsefydlodd yn Middle Granville, New York; ond yn mhen dwy flynedd symudodd hi a'i gŵr i West Pawlet, Vermont; a thrachefn yn mhen pedair blynedd i Granville, New York, lle yr ymaelododd yn eglwys Annibynol Jerusalem, gan fod yn aelod gweithgar a ffyddlawn am 10 mlynedd.
Ychydig fisoedd yn ôl, yn nghymdeithas Solomon Roberts, Granville, daeth i Minnesota i edrych am ei merch, priod Robert M. Jones, ac yn fuan cymerwyd hi yn wael. Mawr ydoedd ei hiraeth ar y cyntaf am ei brodyr a'i chwiorydd crefyddol yn Granville, ond yr oedd yn y diwedd yn berffaith foddlawn i'r drefn ddwyfol. Bu farw mewn llawn sicrwydd ei bod yn myned i wlad well, a hono yn un nefol.
Claddwyd hi y dydd Llun canlynol, pryd y daeth tyrfa luosog yn nghyd. Gwasanaethwyd gan y Parchn. Griffith Roberts, John C. Jones, yn nghyd a'r ysgrifenydd.
Bore Sabboth, Tachwedd, 5ed, traddodwyd pregeth goffadwriaethol oddiar Marc 14: 8. Deallwn oddiwrth lythyr y brawd Solomon Roberts, fod y chwaer Mrs. Roberts yn wraig a nodweddid gan lawer o ragoriaethau, ac a berchid yn fawr gan ei chydnabod yn gyffredinol.
Darllenai lawer ar y Beibl, yr hyn a wnaeth ei chrefydd yn brofiadol a goleuedig. Fel cymydoges yr oedd yn siriol, cyfeillgar a chymwynasgar. Bu hefyd yn hynod am ei haelioni at achos crefydd. Pasiwyd penderfyniad gan eglwys Jerusalem, Granville, yn datgan eu colled ar ôl chwaer mor weithgar, ac hefyd o gydymdeimlad a'r teulu yn eu profedigaeth, ac yn arbenig a Mr. a Mrs. Robert M. Jones, y rhai fuont mor dyner a gofalus o honi yn ystod ei holl waeledd.
Gadawodd un mab a dwy ferch i alaru eu colled ar ôl mam ofalus a thyner. Nodded ac amddiffyn y nefoedd fyddo dros y teulu galarus yn eu profedigaeth.
DAVID EDWARDS.