MR. JOHN ROBERTS. PLAINFIELD CENTRE, NEW YORK.

Ionawr 2ail, 1893, yn Plainfield Centre. New York, John Roberts, y Post Office, yn yr oedran deg o 84.

Ganwyd of yn y Bala, Sir Feirionydd. Enw ei fam ydoedd Betty Roberts Llidiardau. Priododd pan yn lled ieuanc, un Margaret Edwards, merch Lewis Edwards, Llanuwchllyn, yr hon sydd wedi el gadael ar ôl yn unig ac amddifad.

Symudasant i fyw yn lled fuan ar ôl priodi i Bantllwyd, Ffestiniog; a bu Mr. Roberts yn gweithio am flynyddoedd i George Chassell, Blaenyddol.

Bu iddynt naw o blant, saith o'r rhai fuont feirw - tri yn yr Hen Wlad a phedwar yn y wlad hon, ac y mae dau yn fyw, sef Rolant Roberts. Waterville, a David Roberts, Post Office, Plainfield Centre, gyda'r hwn yr oedd Mr. Roberts yn cartrefu, a bu yn ofalus o hono hyd ei ddiwedd. Pan ddaeth Mr. Roberts a'i deulu i'r wlad hon, y sefydlasant yn nghylchoedd Cassville. Bridgewater, Winfield a Plainfield.

Ymunodd â chrefydd yn moreu ei oes, a pharhaodd yn ffyddlawn hyd y diwedd. Yr oedd yn gwybod yn dda beth oedd siomedigaethau a stormydd y byd. Yr oedd yn ddyn gonest a geirwir, yn gymydog caredig a diabsen.

Cafodd yr hen frawd angladd parchus. Claddwyd ef yn mynwent Plainfield Centre. Gweinyddwyd yn y tŷ, y capel ac ar lan y bedd gan y Parch. John F. Davies.

Y Drych Ionawr 26ain 1893.