MR. JOHN H. ROBERTS. RUBY HILL, EUREKA COUNTY, NEVADA.
Rhagfyr 20fed, 1893, yn Ruby Hill, Eureka County, Nevada, John H. Roberts, yn 52 mlwydd oed.Genedigol oedd o Pentir ger Bangor. Gogledd Cymru. Daeth i'r wlad hon tua 32 mlynedd yn ôl.
Bu yn gweithio yn y mwngloddiau ac yn prospectio iddo ei hun am dros yr ugain mlynedd diweddaf yn yr Eureka Mining District, Nevada.
Bu farw ei frawd David H. Roberts bedair blynedd a haner yn ôl, gan adael gweddw a thri o blant, gofal y rhai adawyd ar ei ymadawedig frawd, ac mae ei golli ef yn brofedigaeth fawr i'r teulu, oblegid ef oedd megys ffon eu bara.
Merch ydyw Mrs. David H. Roberts i'r hen grefyddwr enwog Morris Evans, Coed-y-Parc. Bethesda, Arfon. Bu hi a'i phriod yn byw am rai blynyddau yn ardal Slatington, Lehigh County, Pennsylvania.
Heddwch i lwch y ddau frawd yw dymuniad yr ysgrifenydd.
GRIFF THOMAS.