MRS. MARGARET ROBERTS. PLAINFIELD CENTRE, NEW YORK.
Mehefin 19eg, 1893, yn nhŷ ei mab David Roberts, Plainfield Centre, New York, Mrs. Margaret Roberts, gweddw John Roberts, yn 77 mlwydd oed, ar ôl hir nychdod.Yr oedd wedi claddu ei phriod er's tua phum mis a haner. Ganwyd Mrs. Roberts yn y Bala. Ei henw morwynol oedd Margaret Edwards; ac yr oedd yn chwaer i'r diweddar David Edwards, Waterville.
Daeth i'r wlad hon tua 40 mlynedd yn ôl gyda'i phriod a'i phlant, a buont yn byw am amser yn Cassville.
Gadawodd ar ei hol ddau fab, Rolant yn Waterville a David yn Plainfield. Yr oedd yn aelod crefyddol ffyddlon, a chredwn fod marw yn elw iddi.
Claddwyd hi ar yr 2lain wrth gapel yr Annibynwyr, y Parch. J. F. Davies yn gweinyddu.