MRS. MARGARET ROBERTS. DELTA, PENNSYLVANIA.
Rhagfvr 21ain, 1893, yn Delta, Pennsylvania, yn agos i 73 mlwydd oed, Mrs. Margaret Roberts, gweddw y diweddar Hugh C. Roberts, hen oruchwyliwr y DRYCH am flynyddau yn West Bangor.Ymfudodd i'r wlad hon gyda'i phriod o Corris, Meirion, eu lle genedigol, yn 1849; a gwnaethant eu cartref yn yr ardal hyd eu marwolaeth.
Yr oedd Mrs. Roberts yn wraig fedrus, gynil a darbodus, ac yn fam ofalus a thyner. Dyoddefodd gystudd maith a phoenus. Cafodd ergyd o'r parlys tua phedair blynedd yn ôl, yr hyn a'i hanalluogodd i ofalu am dani ei hun ar lawer adeg: ond gofalwyd am dani yn ei henaint a'i llesgedd gan ei hunig ferch, Mrs. Morris, gyda'r tynerwch a'r anwyldeb mwyaf.
Yr oedd yn aelod selog a ffyddlon o eglwys y T. C. yma er's dros 40 mlynedd. Yr wyf yn meddwl mai hi oedd yr aelod cyntaf dderbyniwyd i'r eglwys hon wedi ei sefydliad, a pharhaodd yn ffyddlon hyd y diwedd. Mynodd gael dyfod i'r moddion er yn analluog i ddyfod heb gynorthwy. Bydd yn chwith genym weled ei heisteddle yn wag yn yr addoldy. Bu yn esiampl wir deilwng o efelychiad yn ei hymdrech i ddylyn moddion gras, a'i haelioni at achos crefydd. Yr oedd hi yn un o'r rhai cyntaf i addaw $500 at adeiladu y capel newydd yma, er ei bod ar y pryd yn ofni na chai byth fyned iddo. Estynwyd ei dyddiau i gael y fraint hono am dymor.
Gobeithio na chollir mo'r rhinweddau anmhrisiadwy hyn teulu, hyd genediaeth a chenedlaeth. Teimlai yn hyderus am ei dyfodol yn fynych, er yn methu esbonio holl "droion yr arfaeth."
Dywedai un o'r dyddiau diweddaf y bu fyw fod yn rhaid fod gan yr Arglwydd rywbeth heb ei orphen arni, ond y gorphenid ef yn bu fuan. Bore dydd lau diangodd adref yn ddystaw bach, heb ddweyd dim wrth neb, gan ddal ei merch a'i hwyrion, a'u holl gydnabod mewn syndod a hiraeth ar ei hol.
Cafodd gladdedigaeth barchus fel yr haeddai, y Sadwrn canlynol. Gweinyddwyd gan y Parchn. J. Cadwaladr, Mr. Stewart, a H. F. Williams. Daearwyd ei gweddillion yn mynwent Slateville, wrth ochr ei phriod a'i mab yn nghyfraith, y diweddar a'r anwyl R. W. Morris.
W. C. R.