MR. WILLIAM ROWLANDS. NEW YORK MILLS, NEW YORK.
Chwefror 22ain, 1893, yn 64 mlwydd, 6 mis a 14 niwrnod oed, William Rowlands, New York Mills, o'r darfodedigaeth.Ganwyd ef yn Dolgellau. Daeth i'r wlad hon yn 1852, ac ymsefydlodd yn New Vork Mills yn 1865, gan fod yn ffyddlon fel aelod o'r eglwys Gymreig, a chyda phob achos da.
Teimlir colled fawr ar el ól mewn llawer cylch.
Dros 20 mlynedd yn ól prynodd Mr. Rowlands dir yn Arvonia, Kansas, a bu yn trigianu yno am rai blynyddoedd. Gadawodd ar ei ól weddw a phedwar o blaut - William Rowlands, New York Mills; John Rowlands, Utica; Mrs G. S. Humphrey, Murphysboro, Illinois, a Mrs. Alfred Berry, Utica.