MR. RICHARD SAMUEL. EMPORIA, KANSAS.

Ionawr 22ain, 1893, yn Emporia, Kansas, Richard Samuel, yn 73 mlwydd oed.

Yr oedd wedi bod yn gwanychu er's aanser lled faith, ond daeth diwedd y daith yn gynt nag y dysgwyliem, gan ei fod yn codi o'i wely bob dydd, ac yr oedd felly y dydd cyn ei farw. Bu farw yn mreichiau ei gymydog, John R. Samuel, yr hwn alwyd i fewn ychydig amser cyn i'w anadl ehedeg ymaith.

Yr oedd Mr. Samuel yn enedigol o Bethesda, Arfon - un o fechgyn chwarel Caebraichycafn, ac ni byddai yn blino son am ei hen ardal enedigol, a chawsom gyfleusdra lawer gwaith i deimlo fod yn ei galon le cynes at ei fro enedigol ac at bawb a hanai o'r un ardal glodfawr.

Bu yn byw yn Pensylvannia, yn Randolph a Portage Prairie, Wisconsin, yna yn Arvonia, Kansas, ac yn ddiweddaf oll yn Emporia. Treuliodd dros ddeugain mlynedd yn America.

Yr oedd yn ddyn crefyddol ac yn aelod yn Bethania, (A.), Emporia. Yr oedd yn Annibynwr selog fel y dywedir ac yr oedd amgylchiadau yr achos crefyddol yn Bethesda, Arfon, yn fyw ar ei gôf a'i feddwl hyd y diwedd. Y dydd Mercher canlynol daeth tyrfa fawr i'w dŷ i'r gwasanaeth angladdol, yr hwn ddygwyd yn mlaen mewn modd effeithiol gan y Parchn. H. J. Whitby, John Jones a Henry Rees, Emporia.

Yn yr angladd yr oedd pedwar o'i feibion, Richard o Quincy, Illinois; Griffith o Minneapolis; John o Denver; William o Newton, Kansas, ynghyd a dwy o'i ferched. Bu ei ferch May yn nodedig o ffyddlawn a gofalus am dano yn mlynyddoedd diweddaf ei fywyd, ac y mae yn glod mawr i'r plant oll ddarfod iddynt ymddwyn yn deilwng at eu tad yn ei unigedd a'i weddwdod.

Llawer gwaith y clywsom ef yn son am ei blant; yn wir dyna fyddai testyn yr ymddyddan bob amser, y plant ac amgylchiadau crefydd. Cludwyd ei gorff i'w gladdu yn Arvonia, Kansas, lle y talwyd iddo y gymwynas ddaearol olaf yn mhresenoldeb nifer fawr o gyfeillion o Emporia ac Arvonia. Gweinyddwyd yno gan y Parchn. H J. Whitby, Emporia, J. T. Evans a D. Todd Jones, Arvonia, y rhai a ddygent dystiolaethau uchel i burdeb ei fywyd crefyddol.

Yr oedd Cymry Arvonia yn ei barchu yn uchel. Bydd yn chwith genym weled lle Richard Samuel yn wag, er yn gwybod fod 'marw yn elw' tragywyddol iddo ef.
GWILYM JONES.

Y Drych Chwefror 9fed 1892.