MR. JOHN THOMAS. FAIR HAVEN, VERMONT.

Chwefror 8fed, 1893, yn nhy ei wyres, Mrs. Lamphere, Fair Haven, Vermont, John Thomas, yn 73 mlwydd oed. Adeg y tan diweddar yn Fair Haven cododd o'i wely a chafodd anwyd; yr hwn a drodd yn pneumonia arno, ac a fu yn achos o'i angeu.

Yr oedd yn enedigol o blwyf Llandegai Sir Gaernarfon. Daeth i'r wlad hon yn 1848, a bu am dymor yn Maine, wedi hyny daeth i Vermont. Yr oedd yn yr ardal hon pan adeiladwyd addoldy y T. C. a llafurodd yn galed i gael lle i arch Duw.

Yn bur fuan ar ôl hyn symudodd i Canada; yn 1867 neu 1868 daeth yma drachefn, ond nid arosodd yn hir canys aeth i Michigan, ac wedi hyny bu yn Pennsylvania, a Canada drachefn o'r hwn la y daeth ef a'i fab yma ychydig amser yn ôl.

Bu yn briod bedair gwaith. Merch iddo o'r wraig gyntaf yw Mrs. R. Vaughan Griffiths, San Francisco, ac y mae mab wedi el adael yn unig o'r briodas ddiweddaf.

Y mae dwy o'i wragedd wedi eu claddu yn Caaada a dwy yn Fair Haven.

Chwaer iddo hefyd yw Mrs. Evan Jones (Clark). Cafodd bob gofal ganddi hi a Mrs. Lamphere a Tommie ei fab yn ei gystudd.

Yr oedd John Thomas yn ddyn cymdeithasgar a charedig iawn. Bu yn ffwri eisiau profedigaethau amryw droion a phob tro yr oedd yn dod allau yn fwy pur, fel erbyn y diwedd yr ydym yn credu ei fod yn gymwys i gael rhan o etifeddiaeth y Saint yn y goleuni."

Dydd Gwener daeth tyrfa luosog i dalu y gymwynas olaf iddo. Gwasanaethwyd yn y capel gan Mr. Lyons (B) a D. M. J. (T, C.), ac ar lan y bedd gan y Free Masons.

A fyddai yn ormod i ni ofyn i R. R. Williams, Michigan, i ysgrifenu cofiant i'n brawd yn y Cyfaill. Cafodd ef gryn lawer o'i gymdeithas yn y goedwig yno. Yr ydym yn teimlo ein bod o dan lawer o anfanteision i ddweyd ond ychydig am dano; galwai yma yn ein tŷ yn bur fynych, a chawsom lawer ymgom ddifyr, ond bob tro deuai pethau crefydd dan sylw. Duw eu tad fyddo yn Dduw i'w blant sydd wedi eu gadadael yn unig. Ffarwel, fy mnrawd, dros enyd fechan.
Ei gyfaill, R. J.

Y Drych Chwefror 23ain 1892.