MR. JOHN THOMAS. RACINE, WISCONSIN.

Hydref 9fed, 1893, yn Racine, Wisconsin, yn 76 mlwydd oed, John Thomas, o'r congestion of the brain, ac anhwylderau eraill.

Ganed ef yn Tyddynypandy, Llanbedr, Meirion, Gogledd Cymru. Ymfudodd ei rieni a thri o frodyr eraill i America yn y flwyddyn 184l. Yr oeddynt yn dyfod gvda'r fintai fawr o Ddyffryn Ardudwy yn nghwmni Griffith Richards, Dolgau. Wedi aros peth amser yn Newark, Ohio, symudasaut yn ddylynol i Racine a hwynthwy yn benaf a ddechreuasant sefydliad Cymreig Racine.

Yr oedd John Thomas wedi dysgu ei grefft o saer maen gyda ei dad yn Nghymru, yr hwn oedd wedi bod yn adeiladu ar raddfa eang yno, ac efe a adelladodd Workhouse y Penrhyn, yn nghyd ag amryw adeiladau cyhoeddus eraill. Yn mhen amser symudodd John Thomas i Beloit, Wisconsin, lle y bu yn llwyddianus yn ei alwedigaeth, canys anhawdd cael saer mwy celfydd nag ydoedd ef. Yno hefyd y priododd Miss Owen, genedigol o Ffestiniog, yr hon oedd chwaer i'r ysgolor Cymreig enwog David Owen, Beloit College, yr hwn a dorwyd ymaith yn nghanol y gobeithion mwyaf dysglaer ac addawol.

Byr a fu stad briodasol J. T., canys bu farw ei briod yn mhen blwyddyn, gan adael merch fechan, yr hon hefyd a fu farw yn mhen y deng mis ar ôl ei mam.

Tua deng mlynedd ar hugain yn ôl dychwelodd i Racine lle y bu y gweddill o'i oes, yn cael ei barchu yn fawr gan bawb fel dyn unplyg, cywir a gonest. ¥r oedd yn caeau troion gwael ac anonest yn mhawb â chas cyflawn. Yr oedd yn ddyn cryf o gorff ac wedi mwynhau iechyd rhagorol dros ei oes, ond dyoddefodd yn fawr yn y misoedd diweddaf, er hyny yn amyneddgar a dirwgnach.

Gofalwyd amdano yn ystod ei afiechyd gan ei nith, Mrs. Jane Ellis, a hyny gyda'r tynerwch a'r ymroddiad mwyaf ag oedd yn bosibl.

Teimlir chwithdod mawr ar ei ôl gan bawb, canys yr oedd yn gymeriad mor adnabyddus i bawb yn y ddinas.

Claddwyd ef o'i anedd Hydref 12fed, y Parch. Thomas Evans yn gweinyddu yn Gymraeg, a'r Parch. R. T. Roberts, M. A., yn Saesneg. Heblaw ei gyfeillion a'i gymydogion, yr oedd lluaws mawr o aelodau Cymdeithas yr Hen Sefydlwyr yn bresenol.
T. LL. W.

Y Drych ~ Hydref 26ain 1893.