MR. JOHN O. THOMAS. REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Tachwedd 16eg, 1893, yn sydyn o'r parlys yn Remsen, New York, John O. Thomas (Carrog) yn 60 mlwydd 11 mis a 25 diwrnod oed.

Claddwyd ef Ddydd Llun gan gynulleidfa barchus, y Parchn. E. O. Evans, John H. Jones ac O. F. Parry yn gweinyddu.

Mab ydoedd yr ymadawedig i Ellis a Mary Thomas, a ganwyd ef yn Carrog, Bryncroes, ger Pwllheli. Daeth i America gyda'i rieni yn 1851, gan ymsefydlu ger Remsen, lle y treuliodd wwddill ei oes. Yr oedd yn amaethwr llwyddianus ac yn berchenog Ffactri Gaws Remsen; yn ddinesydd parchus, cymydog caredig, yn briod a thad tirion a gofalus, ac yn mynychu yn rheolaidd y gwsasanaeth crefyddol yn eglwys y T. C. yn Remsen.

Teimlir colled amdano mewn llawer cylch. Gadawodd ar ei ôl wraig, Mrs, Martha Thomas, Floyd; mab John E. Thomas, a merch, Miss Mary M. Thomas; hefyd dau frawd, Owen ac Ellis Thomas, Floyd, a chwaer, Mrs. Jane Evans, Utica.

Y Drych ~ Tachwedd 30ain 1893.