MRS. ANN VAUGHAN. IOWA CITY, IOWA.
Rhagfyr 11eg, 1893, yn Iowa City, Iowa, yn 42 mlwydd ac agos i dri mis oed. o'r darfodedigaeth, Ann, gwraig William Vaughan.Gadawodd i alaru eu colled drom ar ei hol briod athro blant bychain - dau fab, y naill yn 13 mlwydd, a'r llall yn 10 a geneth fechan yn 5.
Ganwyd Mrs. Vaughan mewn lle o'r enw Llanfachreth, ger Dolgellau, Sir Feirionydd.
Ymfudodd hi a'i theulu i'r wlad hon 12 mlynedd yn ôl, ac ymsefydlasant yn Iowa City, lle y buom hyd nes aeth ein chwaer i ffordd yr holl ddaear.
Claddwyd yr hyn oedd farwol ohoni yn mynwent y dref, pryd y gweinyddwyd gan yr ysgrifenydd.
Cafodd gladdedigaeth burchus. Yr oedd Mrs. Vaughan yn briod hawddgar, yn fam dyner a gofalus, cymydoges garedig, ac yn hoff gan bawb a'i hadwaenai. Cafodd gystudd maith, a dyoddetodd ef yn dawel. Hyderwn ei bod mewn gwlad lle nad oes neb yn glaf ynddi. Yr Arglwydd fyddo yn nodded i'n brawd a'i blant bychain.
Gan fod mam a brodyr a chwiorydd i'r ymadawedig yn yr Hen Wlad, dyrnunir ar i bapyrau godi yr uchod.
JOHN E. JONES.