MRS. ELLEN WILLIAMS. TAYLOR, LACK COUNTY, PENNSYLVANIA.
Gorphenaf 6fed, 1893, yn Taylor, Lack County, Pennsylvania, yn hynod sydyn, Mrs. Ellen Williams, priod John W. Williams, yr hon oedd yn fam anwyl ac yn wraig ddarbodus. Wythnos yn flaenorol rhoddodd enedigaeth i faban tlws, ac yr oedd pob peth yn edrych yn ffafriol am ddyfodol hapus; ond cododd ar y dyddiad uchod a chyn pen 15 mynyd ar ôl eistedd yn ei chadair yr oedd ei hysbryd wedi ymadael, cyn i'w phriod gyraedd y tŷ o'r store. Duw fyddo yn amddiffyn i'r plant anwyl ac yn arweinydd i'w phriod trallodus.Merch ydoedd yr ymadawedig i John a Margaret Roberts, Fachwen, Llanddeiniolen, ac adwaenir ei phriod fel John Williams, Cwmyglo.
Daethant i America flynyddau yn ôl, gan ymsefydlu yn Forest City. Tua saith mis yn ôl symudasant i Taylor.
Claddwyd hi Sabboth y 9fed; ac yr oedd yr angladd yn un o'r rhai lluosocaf welwyd yn y lle. Ni ddygwyddodd i mi gyfarfod cynifer o fechgyn Waenfawr, Cwmyglo a'r cylchoedd gyda'u gilydd yn y wlad hon o'r blaen. Gweinyddwyd gan ddau weinidog.
Teimla Mr. Williams yn ddiolchgar i bawb am eu caredigrwydd a'u sirioldeb.
W. G. WILLIAMS (Sarn Fab).