MRS. ELLENOR WILLIAMS. BANGOR, PENNSYLVANIA.
Ebrill 10fed, 1893, yn Bangor, Pennsylvania, Ellenor, priod William P. Williams, Danielsville. Pennsylvania., a chladdwyd ei gweddillion gan dyrfa luosog yn mynwent uchaf Bangor ar 13eg pryd y gweinydowyd gan y Parch. John Hammond, B. A., yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. E G. Roberts.Tair wythnos cyn ei marwolaeth daeth Mrs. Williams i Bangor, i edrych am ei mab hynaf, sef William P. Williams, ac i geisio cael adferiad i'w hiechyd; ond deallodd yn fuan fod ei phabell bridd yn dadfeilio.
Cafodd bob gofal gan ei theulu a chan y meddyg. Yr oedd wedi cyraedd profiad crefyddol mor uchel, fel yr hiraethai am gael myned i'r nefoedd i fyw.
Ganwyd hi yn Befergoed Bach, ger Caerhiw, Bangor, Gogledd Cymru. Merch ydoedd i'r diweddar Thomas Jones, Cae Uchaf, Waen Wen, yr hwn fu yn ddiacon ffyddlon gyda'r T. C. am dros ddeugain mlynedd yn Caerhun.
Dywedir ei bod hithau yn grefyddol hefyd. Merch iddi hi ydyw priod y Parch. Richard Jones, Danielsville, diweddar o Ohio.