MRS. JANE WILLIAMS. COLLINSVILLE, LEWIS COUNTY, NEW YORK.
Medi 16eg, 1893, yn ei chartref yn Collinsville, Lewis County, New York, Mrs. Jane Williams, anwyl briod Owen Williams, yn 69 mlwydd oed.Merch ydoedd i William Jones, Fronheulog, Croesor. Sir Feirionydd.
Ganwyd hi yn Llanfrothen. Ymbriododd gyda Owen Williams yn 1849, a daethant i'r wlad hon yn 1860, gan sefydlu am ddwy flynedd yn Marcy a Holland Patent, ac wedi hyny yn Oollinsville, lle bu byw weddill ei hoes. Ganwyd iddynt wyth o blant - chwech o feibion, Morris, William, Robert, Dafydd, Benjamimin ac Owen, a dwy o ferched, Mrs. Margaret Spauldlng, Utica, a Miss Alice Jones, Collinsville, y rhai oll gyda'i phriod bydd wedi eu gadael i alaru ar ei hol. Yr oedd Mrs. Williams yn wraig a nodweddid gan lawer o ragoriaethau, ac a berchid yn fawr gan ei chydnabod yn gyffredinol.
Ymunodd a'r eglwys yn Collinsville oddeutu 35 mlynedd yn ôl, a bu fyw yn ffyddlon i'w phroffes hyd ddiwedd ei hoes. Darllenal lawer ar y Belbl, yr hyn a wnaeth ei chrefydd yn brofiadol a goleuedig.
Fel cymydoges yr oedd yn siriol, cyfeillgar a chymwynasgar, ac fel priod yr oedd yn ddiwyd, gofalus a serchog yn ei theulu, fel y teimlir chwithdod a cholled ar ei hol yn y gymydogaeth, yn yr eglwys ac yn arbenig yn y teulu. Bu yn gwaelu yn raddol am bum mlynedd, ond byr fu ei chystudd diweddaf hyd nes huno yn dawel a'i hymddiried yn llawn yn y Gwaredwr.
Cymerodd y gladdedigaeth le y dydd Mawrth canlynol, pan y daeth torf luosog yn nghyd i dalu y gymwynas olaf iddi. Gweinyddwyd yn y gwasanaeth crefyddol yn y tŷ ac yn y capel gan y Parchn. Lewis Williams, Port Leyden. ac E. O. Evans. Remsen. Claddwyd y gweddilllon yn mynwent Collinsville.