MRS. MARGARET WILLIAMS. BLISSVILLE, VERMONT.

Tachwadd 30ain, 1893, yn Blissville, Vermont, Mrs. Margaret Williams priod John T. Williams, o glefyd y galon, yn 55 mlwydd ac 8 mis oed.

Dyoddefodd gystudd tawel a dirwgnach a'i phwys ar ei Gwaredwr. Gadawodd briod ac wyth o blant i alaru ar ei hol. Bu hi yn aelod ffyddlon gyda'r Trefnyddion Calfinaidd am lawer o flynyddau.

Ganwyd hi yn Llaarug, Gogledd Cymru. Daeth drosodd i America 29 mlynedd yn ôl, ac yma y sefydlodd am y gweddill o'i hoes.

Claddwyd hi yn mynwent Fair Haven y Gwener canlynol, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. D. M. Jones ac Ellis Walter Jones.

Cydymdeimlir yn fawr â'r teulu yn eu profedigaeth.

Y Drych ~ Rhagfyr 14eg 1886.


MRS. MARGARET WILLIAMS. BLISSVILLE, VERMONT.

Tachwedd 29ain, 1893, yn ardal Blissville, Vermont, yn 55 mlwydd oed, bu farw Mrs. Williams, priod Mr. John T. Williams, gynt o Galltyfoel, Llandinorwig, Sir Gaernarfon.

Yr oedd y drancedig yn ferch i Ellis Roberts. Erw Fforch, Llanrug, ger Caernarfon. Symudodd hi a'i phriod yma tua 29 mlynedd yn ôl, a sefydlasant yn y parthau hyn.

Cafodd gystudd hir, a bu farw o glefyd y galon. Gadawodd briod ac wyth o blant i alaru ar ei hol. Mae iddi dair o chwiorydd yn Nghymru, a dwy yn Liverpool.

Yr oedd wedi ei dwyn i fyny yn yr eglwys er yn blentyn. Caffodd hyfforddiant da, yn ddiameu, yn ystod y chwe blynedd y bu yn aros gyda Mr. Griffith Jones, Pengelli Bank, i'r hwn y rhoddai lawer o ganmoliaeth.

Yr oedd ganddi ymlyniad wrth foddion gras tra bu byw. Gwelsom hi yn dyfod i'r moddion pan yr oedd yn dra amddifaid o nerth. Pan ofynid am air ganddi yn y seiat, byddai hi yn barod bob amser. Dyoddefodd ei chystudd trwm yn hollol ddirwgnach; a dywedai nad oedd ganddi ond ymddiried ei hun i drugaredd yr Arglwydd. Soniai lawer am dani ei hun fel pechadures, ac ymdeimlai oddiwrth bla ei chalon ei hun. Diameu iddi ymddiried ei hun i'w Cheidwad, a chael golwg arno fel Simeon gynt, cyn cau ei llygaid yn yr angau. Duw a ofalo am y gweddill o'r teulu sydd ar ôl.

Y Cyfaill Americanaidd ~ Mawrth 1894.