MR. WILLIAM WILLIAMS. SALEM, MASSACHUSETTS.
Mai 17eg, 1893, yn 76 mlwydd oed, William Williams, Salem, Massachusetts.Daeth i'r wlad hon o Talysarn, Gogledd Cymru, 22 mlynedd yn ôl, ac ymsefydlodd yn Vermont.
Bu yn Utica, New York, am dair blynedd, oddiyno aeth i L'anse, Michigan. Peirianydd oedd wrth ei alwedigaeth, ac yr oedd yn bur adnabyddus yn Nyffryn Nantlle fel William Williams, engineer Gloddfa Glai.
Yr oedd yn analluog i fyned o gwmpas heb gynorthwy ei ddwy ffon, wedi cael ei flino gan y crydcymalau am dros ddeg mlynedd. Gadawodd ar ei ôl ddwy ferch ac un mab - Mrs. Margaret Story, Mrs. Susannah Perrigo a Robert W. Williams.
Claddwyd ef Sabboth, Mai 21ain, o'r M. E. Church, yn Greenlawn Cemetery, y Parch. H. Holway, yn gweinyddu.
R. W. WILLIAMS.