MRS. ELIZABETH WYNNE. CAMBRIA, WISCONSIN.
Awst 2ail, 1893, yn Cambria, Wisconsin, yn 64 mlwydd oed, Mrs. Elizabeth Wynne, gweddw y diweddar George Wynne o Cambria.Ganwyd hi yn Cae'r gareg, Cwm Tir Mynach, sir Feirionydd, Gogledd Cymru. Enwau ei thad a'i mam ydoedd William ac Ann Jones. Bu iddynt naw o blant, tri o'r rhai ddaeth i'r wlad hon, sef yr ymadawedig a dau frawd, Mary Jones, yr hwn sydd allan yn California, a W. A. Jones (Hen Lane o Cambria).
Cafodd Mrs. Wynne ei symud yn hynod ddisymwth; yr oedd hi yn ymgomio yn llawen gyda'r cymydogion o gwmpas 9 o'r gloch nos Fercher, ac erbyn canol nos yr oedd y rhan anfarwol mewn byd tragwyddol. Symudwyd hi felly gan y parlys. Yn ei marwolaoth mae yr Hen Lanc wedi cael colled bwysig, gan mai gyda hi yr oedd efe yn gwneyd ei gartref. Mae henaint wedi ei ddal yntau, bellach, ac wedi ei wneyd dipyn yn analluog. Diau ei fod wedi ysgrifenu rhai degau o gofiantau; ond bellach mae y llaw yn gwrthod ufuddhau i'r ewyllys.
Bydded yr Arglwydd yn dirion o hono yn ei hen ddyddiau, a chaffed yntau nerth i orphwys ei enaid ar Graig yr Oesoedd.
Cymerodd y gladdedigaeth le Awst 4ydd, yn mynwent Cambria. Gwasanaethwyd gan yr ysgrifenydd a'r Parch. R. M. Williams, Cambria.
EDWARD MORGAN.