MRS. CATHERINE GRIFFITHS, TRENTON, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Yn mhlwyf Trenton, Ebrill 9fed, 1848, Mrs. Catharine Griffiths, gweddw y diweddar John Griffiths, yn 81 mlwydd oed, - brodor o Leyn, Gogledd Cymru, – aelod o eglwys y Trefnyddion Calfinaidd yn nghapel y Nant, Steuben.

Ar yr 11eg claddwyd ei rhan farwol yn fonwent capel y Nant, a phregethwyd ar yr achlysur gan y Parch. D. Williams, Remsen.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Mai 1848.