MR. JOHN W. DAVIES, CARMEL, WELSH PRAIRIE, WISCONSIN.

Gyda theimlad o alar a pharch dwfn, yr wyf, ar gais y teulu, yn ymgymeryd ag ysgrifenu ychydig o hanes Mr. John W. Davies, diacon ffyddlon a pharchus o eglwys Carmel, Welsh Prairie, Wisconsin.

Bu farw Ionawr 15, 1894, o'r pneumonia, ar ol cystudd byr a phoenus, yn 52 mlwydd oed. Ganwyd ef yn Talsarnau, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru. Enwau ei dad a'i fam oedd Wiiliam ac Elenor Davies. Daeth i'r wlad hon gyda ei rieni pan yn ddeg oed, a daethant allan i Wisconsin. Ni chafodd Mr. Davies ond ychydig o ysgol, ond byddai, oblegid amgylchiadau, yn gorfod gweithio gyda yr amaethwyr, a threuliodd y rhan fwyaf o'i flynyddoedd cyntaf gyda Mr.Daniel L. Williams, y Glyn, a byddent yn meddwl llawer iawn o hono; ac er pob anfanteision, llwyddodd i fod yn ddyn defnyddiol yn y gymydogaeth a'r eglwys; a byddai yn cael ei ethol i lanw swyddau yn y drefgordd (town) yr oedd yn byw.

Yn 1872, ymunodd mewn priodas gydag Elenor Hughes, merch y diacon ffyddlawn a duwiol, Hugh Hughes, a chafodd wraig dda a rhinweddol; ond ni pharhaodd yr undeb yn hir, oblegid ar y 25ain o Mai, 1886, bu farw, gan adael ein hanwyl frawd yn ei alar, gyda phedwar o blant bach heb un fam, ar ei law. Yr oedd hwn yn amgylchiad chwerw; ond er nad oedd Maggie Ellen, ei ferch henaf, ond 12 mlwydd oed ar y pryd, yr oedd yn ddigon hen i deimlo fod arni gyfrifoldeb â sylweddoli pwysigrwydd yr amgylchiad, ac ymgymerodd a'r gorchwyl o gadw ty i'w thad, ac ymddwyn fel mam tuag at y plant eraill, gan fod yn ddoeth, gweithgar a gofalus; a dywedai ei thad nad oedd ei gwell yn bod. Fe dâl Duw iddi am ei ffyddlondeb. Heblaw y ferch hon, y mae tri eraill wedi cael eu gadael i alaru ar ol tad tyner, sef William, Mary, a Hugh — un yn 20, y llall yn 17, y llall yn 14, a'r ieuengaf yn ddim ond 10 mlwydd oed. Cafodd John W. Davies ei ddwyn at grefydd yn adeg yr adfywiad mawr yn 1859. Y pryd hwnw dygwyd ef o dan argyhoeddiad nerthol, a chafodd ei ysgwyd i'w waelodion; nid yn unig gwnaeth y ddeddf gyraedd ei gydwybod, ond daeth gras Duw i'w galon; nid yn unig gwelodd ei hunan yn bechadur, ond cafodd olwg ar Waredwr, ac ni chollodd yr olwg arno hyd ddydd ei farwolaeth, a daliodd gwres ei brofiad crefyddol hyd y diwedd.

Gwyddom am rai yn ystod yr adfywiad hwn gafodd eu cynhyrfu yn enbyd, a byddent yn bloeddio, gweddio, a gorfoledd allan o reswm, a gellid meddwl eu bod wedi cael y cyfnewidiad mwyaf trwyadl; ond nid oeddynt wedi y owbl ond fel Saul yn mysg y proffwydi; a dygwyddodd iddynt yn ol y wir ddiareb, "Y ci a ymchwelodd at ei chwdiad ei hun; a'r hwch wedi ei golchi, i'w hymdreiglfa yn y dom."

Ac er i'r ysbryd aflan fyned allan o rai, ac i'r ty gael ei ysgubo a'i drwsio, gwnaeth ddychywelyd, gan gymeryd saith ysbryd eraill gwaeth nag ef ei hun, ac aeth diwedd y dynion hyn yn waeth na'u dechreuad. Ond am y brawd John Davies, daliodd ei dir, ac ychwanegodd ei gryfder, oblegid gwnaed ef yn greadur newydd; ac os gwna Ysbryd Duw ddechreu gwaith da, y mae yn sicr o'i orphen. Wedi y cyfnewidiad a deimlodd yn adeg yr adfywiad, ymroddodd i ddeall yr Ysgrythyrau, ac yr oedd ei gynydd yn eglur i bawb. Ymgymerodd a rhanau cyhoeddus y gwasanaeth crefyddol ar unwaith, ac ymdrechodd i fod yn bresenol yn mhob moddion o ras.

Daliodd yn ei ffyddlondeb, ac aeth rhagddo mewn defnyddioldeb. Pan fu ei dad-yn-nghyfraith, yr hwn oedd ddiacon rhagorol, farw, teimlai eglwys Carmel nad ellid cael neb i lanw ei le; ond yr oedd yn rhaid dewis rhyw un, a syrthiodd y coel-bren ar John W. Davies, ac mewn modd gwylaidd, gan ddymuno rhan yn eu gweddiau, ymgymerodd a'r swydd, ac yn fuan fe deimlodd pawb fod y bwlch wedi cael ei lanw, er nad oedd un cymwysder neillduol yn ymddangos ar y cyntaf, ond ei fod yn dduwiol.

Bu yn ffyddlawn, yn ol ei allu, yn holl ranau ei swydd dros ddeng mlynedd o amser. Yr oedd yn ddinesydd da, yn gymydog dymunol, ac yn Gristion rhagorol. Yr oedd yn lletygar, a hynod garedig i bregethwyr. Y mae amryw ohonom yn cofìo yn dda y sylw caredig a delid i ni ganddo ef a'i ferch fyddlawn, pan yn ei dy. Credwn y gofala Duw am eglwys fach Carmel, ac y cawn weled yn fuan fod ganddo un arall eto i lanw lle y brawd hwn.

Ar y dydd cyntaf o'r flwyddyn hon, yr oedd Mr. Davies yn llywyddu mewn cyfarfod blynyddol y Feibl Gyrudeithas yn Cambria, a chafodd ei ethol am y flwyddyn ddyfodol. Yr oedd yn iach, siriol a llawen; ond Ah, yn mhen pythefnos yr oedd wedi marw! Yn ei oriau olaf cafodd gwmni ei Waredwr yn y glyn tywyll. Ba farw cyn colli dim o nerth ei gorff na'i feddwl, a dyma un rheswm paham y cawsom ein taro â syndod a braw pan glywsom y newydd; a dyma un rheswm y teimlir cymaint o hiraeth a cholled ar ei ol yn y teulu, yr eglwys a'r gymydogaeth.

Cafodd gladdedigaeth anrhydeddus, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. Owen Jones, J. B. Jones, T. R. Jones, Griffith Griffiths, David Jones a'r ysgrifenydd. Gofaled Duw am blant yr ymadawedig, a adawyd heb dad na mam.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Gorphenaf 1894.


MR. JOHN W. DAVIES, CARMEL, WELSH PRAIRIE, WISCONSIN.

Farmer, Sec. 19; P. O. Cambroia; was born in Merionethshire, North Wales, December, 30th, 1842; son of William Davies, who came to America in 1851; lived in Green Lake County about a year, and then removed to Springvale, Columbia County; he is now living with his son (the subject of this sketch); his mother Eleanor (Jones) Davies, died in May 1871, in Springvale; John W. went to Colorado in the spring of 1868, and followed mining and teaming there for three years, returning home in 1871.

November 27th, 1872, he was married in Courtland to Eleanor Hughes daughter of Hugh R. Hughes, the present Treasurer of Courtland, who came from the same place as Mr. Davies, in 1851. Mr. Davies has three children - Maggie Ellen, born September 23rd, 1873; William Centennial, born October 18th, 1876, and Mary, born March 18th, 1880.

He is a Republican, and has held the office of School District Treasurer. Both are members of the Presbyterian Church.

Wisconsin County Histories.