MRS. MARY C. DAVIES. CAMBRIDGE, MASSACHUSETTS.
Hydref 15fed, 1894. yn ninas Cambridge, Massachusetts, Mary C, anwyl briod John William Davies, o'r typhoid fever, yn 25 mlwydd oed ar ôl nychu am oddeutu mis o amser.Meroh ydoedd i James a Maria Smith a arferent gadw gwesty flynyddau yn ôl yn Caernarfon, Gogledd Cymru. O ochr ei mam yr oedd yn hanu o hen deulu parchus Buarth y Foty Talysarn, Gogledd Cymru.
Rhagfyr 25ain, 1890 priododd John William Davies, chemist, gynt o Fangor, Gogledd Cymru. Gadawodd i alaru ar ei hol, briod hawddgar a bachgen bychan oddeutu pedair mlwydd oed. yn nghyd a mam a dwy chwaer - y fam a'r chwaer ieuengaf yn cadw y Temperance House ar Castle Street, Caernarfon, Gogledd Cymru, a Lizzie, ei chwaer hynaf yn briod gyda Capt. Durie, yn awr yn Brooklyn, New York.
Rhagflaenodd ei thad hi oddeutu 11 mlynedd yn ôl. Yr oedd Mrs. Davies yn ddynes dawel a siriol, bob amser yn barod i helpu mewn cyfyngder, yn flaenllaw gyda phob svmudiad Cymreig, yn briod hawddgar ac yn fam dyner a gofalus. Er na bu eu bywyd priodasol ond byr, yr oedd yn berffaith hapus, gan ei bod yn cymeryd y dyddordeb mwyaf yn ei chartref. Rhoddwvd ei gweddillion i orphwys yn ochr ei thad yn y Cambridge Cemetery, ddydd Mawrth yr 16eg, gan dyrfa luosog o'i chyfeillion Cymreig ac Americanaidd. Gweinyddwyd yn y tŷ gan y Parch. Mr. Skein, gweinidog yr Harvard Street M. E. Church, o'r hon yr oedd yn aelod rheolaidd. Canwyd yr emyn "Rwy'n edrych dros y bryniau pell." a "Jesus lover of my soul" yn y tŷ, a'r emyn "Bydd mvrdd o ryfeddodau" ar lan y bedd.
Anfonodd ei pherthynasau a'i chyfeillion flodau prydferth o bob cynlluniau i addurno yr angladd, yn arddangosiad o'u parch diffuant iddi.
Bydded nawdd Duw a'i dangnefedd ar ei phriod a'i mab bychan, a'i mam a'i dwy chwaer sydd wedi eu gadael i alaru eu colled ar ei hol.
TREBOR.