MR. ROBERT M. DAVIES. NEENAH, WISCONSIN.
Ionawr 22ain, 1894, yn Neenah, Wisconsin, Robert M. Davies, yn 77 mlwydd oed.Brodor ydoedd o Sir Feirionydd. Ymbriododd yn Liverpool, Mehefin 17eg, 1840, gyda Miss Catherine Hughes, merch i'r adnabyddus John Hughes, Plwyf Ysgeifiog, Sir Fflint.
Gadawsant eu cartref yn Liverpool Mai 8fed, 1847, am y Talaethau Unedig, ond bu Mrs. Davies farw ar y mor, Mehefin 2il, gan adael ei phriod, gydag un ferch, yr hon sydd yn awr yn briod i Thomas E. Davies, Peniel, Oshkosh.
Yn y Cyfaill o'r Hen Wlad, Chwefror 1848, ceir y nodiad a ganlyn:
"Hanes marwolaeth tair chwaer." Merched oeddynt i'r diweddar John Hughes, Colomendy, Plwyf Ysgeiflog, Sir Fflint. Bu farw y gyntaf, sef Catherine, priod Robert Davies, 2il o Mehefin, ar ei mordaith i'r wlad yma, yn 41 oed (os felly yr oedd 11 mlynedd yn hynach na Mr. Davies.). Yr ail, Margaret, priod Frederic Roberts, a fu farw y 6ed o Gorphenaf, sef y trydydd dydd ar ôl cyraedd y lan, yn nhy ei brawd-yn-nghyfraith, sef Abel Williams, yn 48 mlwydd oed. Hefyd, Medi 17eg, Mary, priod Abel Williams, yr hon a ymfudasai yma gyda ei gŵr ddwy flynedd yn ôl."
Daeth Mr. Davies yn ei flaen i Milwaukee, a thrachefn i Neenah. Priododd eilwaith, Hydref 18fed, 1850, gyda Miss Mary Hughes, Oshkosh, yr hon gyda'i dau fab a'i dwy ferch sydd fyw, ac mewn galar ar ei ôl. Plastrwr oedd Mr. Davies wrth ei gelfyddyd, ac fel eraill yn yr alwedigaeth hono, bu yn dra symudol ar hyd ei oes, er mai Neenah oedd ei gartref.
Yr oedd yn ddyn cadarn o gorff, bywiog a charedig, ac yn hynod foneddigaidd yn ei holl ymddygiadau. Yr oedd yn Gristion pur a phrofiadol, ac yn ddiacon o radd dda gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Yr oedd gair da iddo gan bawb, a chan y Gwirionedd ei hunan, a bydd ei goffadwriaeth yn anwyl gan ei gydnabod am flynyddau lawer. Yr oedd wedi myned i Antigo, Wisconsin, er's rhai misoedd i fyw ger llaw ei blant. Dylynai yr achos mewn eglwys Seisonig, gyda chysondeb a brwdfrydedd, gan roi lle i dybied er's tro fod ei enaid yn addfedu i wlad well.
Yr oedd yn y capel nos Sabboth, Ionawr 21ain, ac wedi marw ddeg o'r gloch ddydd Llun, Ionawr 22ain.
Claddwyd ef yn nghanol pob amlygiad o barch, fel un o arwyr tywysogaidd Seion Duw, yn mynwent dinas Antigo. Yma dros enyd fechan y ffarweliwn a'n hoffus gyfaill a brawd, R. M. Davies.
DAVID DAVIES.