MRS. MARY EDMUNDS. STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Rhagfyr 29ain, 1894, yn nghartref ei hunig ferch, Mrs Richard Davies, Nant, plwyf Steuben, New York, Mrs. Mary Edmunds, yn 87 mlwydd oed.

Hi oedd y ferch ieuengaf o bymtheg o blant i Evan a Mary Jones. Aberdaron, Gogledd Cymru, lle y cafodd ei geni Rhagfyr 25ain, 1807.

Daeth i'r wlad hon yn Mehefin, 1883, ac ymbriododd yn Awst yr un flwyddyn gyda'r diweddar Hugh Edmunds, yr hwn fu farw yn Medi, 1886. Treuliodd weddill ei hoes yn ardal y Nant a Steuben, yn lled ddibrofedigaeth ac yn barchus yn mhlith ei holl gydnabod. Cartrefai er's rhai blynyddau gyda Mr, a Mrs. Richard Davies, lle cafodd bob gofal, ymgeledd a charedigrwydd ellid weinyddu iddi, yr hyn fu yn gysur mawr iddi yn wyneb methiant ei golwg a'i chlvw gan henaint.

Ymunodd â chrefydd pan yn ferch ieuanc 20 oed, dan argraffiadau dwys am ei chyflwr yn codi yn benaf drwy y geiriau 2 Cor 5:10, a bu yn ffyddlon, gweithgar a dichlynaidd ei hymarweddiad weddill ei hoes. Bu yn aelod yn eglwys y Nant dros 60 mlynedd, lle mae ei choffadwriaeth yn fendigedig. Dysgodd allan ar gof ranau helaeth o air Duw, ac wedi iddi golli ei golwg dysgodd allan 140 o destynau pregethau - meithrinai syniadau ysgrythyrol a goleuedig am wirioneddau crefydd, ac yr oedd naws ysbrydol a chrefyddol ar ei hysbryd a'i phrofiad. Yr oedd yn amlwg fod gras yn aeddfedu ei henaid ar gyfer etifeddiaeth y saint yn y goleuni. Wedi cyraedd henaint teg coleddai ffydd gref yn y Gwaredwr, a theimlai yn dawel a boddlon yn wyneb angeu.

Cymerodd y gladdedigaeth le dydd Mawrth, Ionawr 1af, 1895, pryd y daeth torf fawr yn nghyd i ddangos eu parch i'w choffadwriaeth. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchn. E. C. Evans ac E. G. Williams, Remsen. Claddwyd y gweddillion yn mynwent Steuben Valley.

Y Drych ~ Chwefror 7fed 1895.