MR. JAMES EDMUND. FOREST HILL, UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Mab Griffith Edmund a Jane Hughes, Ty Fwg, Aberdaron, wedi cael ei fedyddio yng nghapel Uwchmynydd ar 28/8/1821.Wedi ymfudo gyda'i deulu i America yn 1833 ar fwrdd y llong George Clinton o Lerpwl, cyrraedd Efrog Newydd ar 6/6/1833.
Erbyn 1850 'roedd James wedi priod gyda Ann Maria Griffith ac yn dad i ddau o blant, James Jnr a Mary Jane.
Roedd y teulu yn byw yn nhref Remsen ar yr oedd James yn gweithio fel teiliwr gyda'i frawd John.
Yn nes ymlaen symydodd James i weithio fel teiliwr i ddinas Utica.
Bu Ann Marie Griffith Edmunds farw ar 20/4/1888 yn 71 oed.
Bu James Edmonds farw ar 18/6/1894 yn 72 oed.
Mae gweddillion y ddau wedi cael eu claddu ym mynwent Forest Hill yn ninas Utica.