MR. HENRY ELLIS. MORRISVILLE, MADISON COUNTY, NEW YORK.

Awst 24ain, 1894, yn Morrisville, Madison County, New York, Henry Ellis, yn 74 mlwydd oed, gan adael priod, tri mab ac un ferch i alaru ar ei ôl: hefyd dau frawd - John Ellis, Aberystwyth; Evan Ellis, 63 Steuben Street, Utica, New York; a dwy chwaer, Mrs. Grace Jones, Eaton, a Mrs. Catherine Fay, ger New York.

Daeth i'r wlad hon yn 1848 o Ty'n Pwll, Llanegryn, Sir Feirionydd, gan ymsefydlu yn Marcy. Ar ôl pedair neu bum mlynedd symudodd i Sir Madison. Yr oedd yn ddinesydd parchus, ac yn cael ei hoffi gan bawb, fel y profwyd ddydd ei angladd, Sul y 26ain pryd y gweinyddwyd gan weinidog y Bedyddwyr Seisnig.

Y Drych ~ Medi 6ed 1894.