MR. WILLIAM H. ELLIS. HYDE PARK, PENNSYLVANIA.

Awst 21ain, 1894, yn Hyde Park, Pennsylvania, o'r pneumonia, William H. Ellis, yn 60 mlwydd oed.

Yr oedd yn fab i Hugh Ellis, Llanfachreth ger Dolgellau, Gogledd Cymru. Mae iddo amryw frodyr a chwiorydd. Mae dwy chwaer iddo yn nghylchoedd Utica. Bu rai blynyddau yn Awstralia. Daeth i'r wlad hon o Merthyr Tydfil yn 1858. Treuliodd braidd ei holl amser yn Hyde Park. Yr oedd yn hen Gymro parchus, ac yn aelod o amryw gymdeitnasau elusengar.

Gadawodd weddw a thri o blant mewn amgylchiadau cysurus ar ei ôl, mab a dwy ferch. Gweinyddwyd yn ei angladd gan y Parchn. Charles Jones a Peter Roberts. Claddwyd ef yn mynwent Washburn Street.

Y Drych ~ Hydref 4ydd 1894.