MRS. ANNIE EVANS. CAMBRIA, WISCONSIN.
Tachwedd 10, 1894, yn Cambria, Wisconsin, ar ôl wythnosau o gystudd caled, Annie, anwyl briod Enoch Evans, yn 56 mlwydd oed.Ganwyd hi yn Dolwyddelen, Gogledd Cymru, Mawrth 10fed, 1839. Merch ydoedd i John Thomas a'i briod, o'r Shop. Brodor o Beamachno oedd ei thad, a'i mam yn ferch i'r diweddar Barch. Cadwalader Owen, y seraff-bregethwr adnabyddus trwy Gymru yn ei ddydd. Bu ei mam, oedd yn nodedig am ei chrefyddolder, yn briod y waith gyntaf â phregethwr ieuanc addawol o'r enw John Williams, Dolwyddelen, yr hwn fu farw yn gynarol, gan ei gadael yn weddw gyda dau fachgen ieuanc i ofalu am danynt. Bu farw yr ieuengaf cyn hir ar ôl ei dad. Tyfodd yr hynaf yn ddyn ieuanc addawol a'i fryd ar bregethu, ond cymerodd darfodedigaeth afael ynddo, a gwywodd o ganol ei dynerwch.
Yn mhen ysbaid ffurfiwyd amod a seliwyd y briodas, yr ail waith. rhyngddi â John Thomas; a ganwyd iddynt bedwar o blant, un o'r rhai a gladdwyd yn ei fabandod. Annie oedd yr hynaf o honynt. Bu ei mam farw tra nad oedd hi eto ond ieuanc a thyner, gan adael ei phriod a thri o blant amddifaid heb ei chariad a'i gofal.
Yn 1859 ymfudodd Annie i America, i fentro ei siawns fel geneth amddifad yn mysg estroniaid, a chafodd ofal a ffafr rhagluniaeth yn ddarpariaeth lawn, ac enillodd serch a chydymdeimlad cyflawn y rhai y daeth i berthynas agoaf â hwy, fel nad oedd berygl iddi gael cam. Er iddi gael ei magu yn grefyddol gan ei mam, eto ar ôl ei cholli, fe giliodd hi fel llawer eraill o'r eglwys. Nid hir fodd bynag, y bu yn America cyn ymuno â chrefydd, a pharhaodd mewn cysylltiad ag eglwys y T. C., yn Cambria, yn benaf, hyd derfyn ei gyrfa.
Yn 1865 priododd Robert J. Rowlands, Penygwrhyd, gan ymsefydlu yn Cambria. Ganwyd iddi ddau fab, sef John a Robert. Yn 1876 aeth y teulu i Gymru, o herwydd gwaeledd iechyd y gŵr, mewn gobaith y buasai y symudiad yn help iddo. Yn lle hyny, gwaethygodd a bu farw, gan adael y wraig yn wedddw a'r plant yn amddifaid.
Ar ei dychweliad i America, symudodd ei thad gyda hi, a bu yn gefn a dyddanwch iddi hyd ei farwolaeth yn 1890.
O gylch tair blynedd yn ôl, priododd Enoch Evans, a phrofodd yr undeb yn fantais a mwyniant o'r ddeutu, gan fod ei meibion hi a'i ferched yntau wedi cyraedd adeg i adael yr hen gartref i ddylyn eu galwedigaeth, a derbyn eu haddysg a thymor o unigedd wedi eu goddiweddyd. Nid oedd ond un brawd iddi yn fyw pan ddaeth yr alwad, a hwnw allan o'r cyraedd yn eithaf y Gorllewin.
Tachwedd 12fed, hebryngwyd ei gweddillion i fynwent Cambria, pryd y cyflawnwyd y gwasanaeth gan y Parch. R. H. Evans, yn cael ei gynorthwyo gan y Parchn. Morgans a Williams, Cambria; J. R. Jones, Columbus; a Griffith Griffiths, Seion.
Talwyd cydnabyddiaeth uchel iddi fel gwraig ddoeth, dyner a gofalus, oedd yn orlawn o ffyddlondeb a phurdeb. Bydd ei lle yn wag yn yr anedd glyd, a chalonau ei hanwyliaid yn llawn tristwch a hiraeth o'i cholli. Bydded nawdd Duw dros ei phriod galarus a'i ferched, a thros ei dau fab, sydd bellach yn amddifaid.