MR. DAVID EVANS. TURIN, NEW YORK.
Ionawr 16eg, 1894, yn Turin, New York, David Evans, yn dra sydyn o'r parlys mud. yn 76 mlwydd a 28 o ddyddiau oed.Lle genedigol Mr. Evans oedd Hafod-wian. Daeth i'r wlad hon gyda'i gefnder, Evan Jones yr Hendre, yn 1842.
Priododd yn 1847, a bu iddynt bump o blant.
Chwefror 20fed, 1874, bu farw y mab hynaf yn 25 mlwydd, 8 mis a 10 diwrnod oed.
Yn Ionawr 21ain, 1884, bu farw ei anwyl briod yn 68 mlwydd, 9 mis a 16 diwrnod oed.
Mae yn aros dair merch ac un mab a nifer o wyrion i alaru ar ôl tad tyner a gofalus.
Ionawr 20fed, daeth torf o Gymry a Saeson i dalu eu cymwynas olaf iddo yn mynwent Turin.
Gweinyddwyd gan y Parchn. Wood a Fry.
D. W. R.