MR. E. B. EVANS, DENVER, COLORADO.
"Ti a ddeui mewn henaint i'r bedd, fel y cyfyd ysgafn o yd yn ei hamser."Dechreuodd y brawd anwyl hwn ei daith yn Ffestiniog, G. C, yn y flwyddyn 1823, a chafodd ddygiad i fyny ar aelwyd grefyddol, a thystiolaeth ei gyfoedion yw, fod yr egwyddorion hyny yn amlwg lywodraethu ei fywyd yn moreu ei oes.
Daeth ef a'i briod drosodd i'r wlad hon yn y y flwyddyn 1853. Gwnaethant eu cartref am y tair blynedd cyntat yn Galena. Illinois. Wedi hyny symudasant i Dodgeville, Wisconsin, lle y trlgasant am 19 mlynedd.
Yna symudasant drachefn i Central City, Colorado, lle yr arosasant am naw mlynedd; ac ar ol taith am ychydig fisoedd yn Nhalaeth Wisconsin, dychwelasant i gartrefu am y naw mlynedd a haner diweddaf i Denver, Colorado, o'r hwn le yr ehedodd enaid ein brawd ar yr wythfed dydd ar hugain o Ionawr, 1804, i'w gartref tragywyddol; a rhoddwyd ei gorff, yn mhresenoldeb tyrfa luosog, i orphwys mewn llanerch hyfryd yn nghladdfa Vermont, Denver, y dydd Mercher dilynol.
Bu i Mr. a Mrs Evans ddau o blant, sef merch a mab; bu yr olaf farw pan yn bur ieuanc, tra yr oeddynt yn cartrefu yn Dodgevllle, Wisconsin, lle y gorphwys el weddillion ef. Mae y ferch yn fyw, ac yn briod a Mr. Thomas E. Jenkins, Denver, sef yr enwog fardd Goronwy. Bu hi a'i phriod a'u plant bach yn gysur a dyddanwch i'w rhieni yn eu hen ddyddiau, a chaiff Mrs. Evans bellach gartref cysurus gyda hwy hyd derfyn y daith.
Mae i Mr. E. B. Evans ddau frawd a chwaer eto yn fyw, sef Mr. Richard W. Evans, Dodge, Kansas; John E. Evans, Wood Ruu, Illinois, a Mrs Mary Lloyd, Elizabeth, Illinois. Yr oedd un brawd enwog a rhinweddol wedl el ragflaenu ef i'r cartref fry, sef y Parch. William Evans, Melbourne, Awstralia.
Perthynai i'r brawd E. B. Evans lawer o nodweddion gwerthfawr a rhagorol iawn. Yr oedd yn feddianol ar alluoedd meddyliol cryfion - athronydd wrth natur. Pan y traethai el farn ar unrhyw fater, yr oedd bob amser yn addfed, ac wedl ei ffurfio mewn pwyll. Y paham a'r pa fodd oedd cyfeiriad ei ymchwiliad, a pharhaodd ei feddwl yn fywiog a llawn yni, er fod ei gorff yn llesgau er ys amser, hyd o fewn wythnos i'w farwolaeih. Nid talent wedi ei chuddio yn y ddaearydoodd yr eiddo ef, ond gwnaeth ddefnydd da ohoni, er fod hwyrfrydigrwydd a diffyg hunanymddiried wedi bod yn beth anfantais i'w ddefnyddioldeb.
Llwyddodd i gasglu gwybodaeth eang ar faterion crefyddol, ac ni byddal un amser yn cau ei lygald ar faterion y dydd. Bu o wasanaeth i achos ei Arglwydd ar hyd ei oes. Bu yn arwain caniadaeth y cysegr yn Dodgeville, a rhoddodd lawer o gynorthwy yn y cyfeiriad hwnw wedi dod i Colorado, yn neillduol felly ar gychwyniad yr achos Cymreig yn Denver. Cofir gyda dlolchgarwch am ei wersi doeth a buddiol yn y gangen hon o wybodaeth.
Bu yn fraich gref i'r achos Cymreig yn Russell Gulch, yn ystod ei arosiad yn Central City, er gorfod cerdded tua dwy fildir o ffordd arw ar lethrau uchel y Mynyddoedd Creigiog. Efe hefyd oedd un o'r rhai cyntaf i ddechreu son am sefydlu yr achos Cymreig presenol yn Denver. A bu yn ffyddlawn iawn mewn llawer o gysylltiadau, er na fynai yr enw o swyddog, i ddwyn y gwaith yn mlaen, hyd nes y daeth yr hen elyn, yr apoplexy, i roddl terfyn ar ei daith, a gorchudd ar ei alluoedd dysglaer am wythnos cyn ei ymadawiad. Felly ni chafodd fantais i adolygu ei daith ar wely cystudd, nac i ddweyd gair o'i deimlad am y dyfodol. Cwympodd y cadarn, syrthioîd dyn mawr o'r cylch Cymreig yn Denver - dyn ag yr oedd ei air a'i grefydd uwchlaw amheuaeth.