MRS. JANE EVANS, WEST PAWLETT, RUTLAND COUNTY, VERMONT.

Marwolaeth Mrs. Jane Evans ymheu tair blynedd ar ol ei phriod.

Ar y 12fed o Fai 1894 bu farw Mrs. Jane Evans, gweddw y diweddar Owen Evans, yr hwn oedd wedi ei rhagflaenu ychydig dros dair blynedd.

Ganwyd hi yn Caecorniog, plwyf Llanddeiniolen, Arfon yn 1823, felly yr oedd yn 71 mlwydd oed.

Yn 1852 ymunodd hi a'i brodyr a'i mam i'r wlad hon, ac aethant i Pennsylvania, lle y flwyddyn ddilynol yr ymbriododd ag Owen Evans. Ymhen ychydig wedi hyny symudasant i ardal Middle Granville. Yr oedd yn un o land marks y Cymry yn yr ardaloedd hyn.

Daethant i'r wlad hon yn yr un llong a R. R. Williams, Michigan, teuluoedd Pierce Davies a Ioan Pritchard, Middle Granville - y rhai sydd yn myned o un i un dros y terfyn. Aeth Mrs. Pierce Davies yn mhen rhyw dri diwrnod ar ol Mrs. Evans. Ychydig, os oes rhai, o benau teuluoedd y fintai uchod sydd heb gyrraedd pen y daith.

Bu Mrs. Evans yn nychu yn hir iawn, ond yn berffaith dawel. Gwyddai fod y diwedd yn nesau, a dywedai am i'w phlant beidio teimlo yn ddrwg. "Ni frysia yr hwn a gredo." Cafodd bob gofal oedd yn ddichonadwy i blant gymeryd o'u mam.

Erbyn hyn, fel y dywedai ein parchus weinidog ddydd yr angladd, "Mae wedi ymddangos yn Seion." wedi cyrraedd pen y daith yn ddiogel. Ymgysured y plant yn y syniad hwn.

Bu saith o blant yn y teulu, pump o'r rhai sydd yn fyw, sef Evan Evans, Genoa, Nebraska; John Evans, West Pawlett; Hugh Evans, Granville; Mrs. Hugh Hughes, Granville; a Miss Anna J. Evans, West Powlett.

Cymerodd yr angladd le dydd Mawrth, Mai 15fed, a hebryngwyd ei gweddillion i Middle Grenville i ymyl ei gwr. Gwasanaethwyd yn y capel ac ar lan y bedd gan y Parch. E. Roberts yn gymeradwy iawn oddiar y geiriau "Ant o nerth i nerth, ymddengys pob un ger bron Duw yn Seion." Nis oes genym wrth sychu ein hysgrifell ond datgan ein cydymdeimlad a'r plant oll, a'n gweddi yw ar i'r amgylchiad brofi yn fendith ysbrydol i bob un o honynt.

Marwolaeth Jane Evans, West Pawlett, Vermont ~ Y Drych.