MR. JOHN W. EVANS. SLATINGTON, PENNSYLVANIA.
Medi 10fed, 1894, yn sydyn o afiechyd y galon, John W Evans, Slatington, Pennsylvania, yn 44 oed, gan adael priod a chwech o blant i alaru ar ôl priod serchog a thad tyner.Mab oedd yr ymadawedig i'r diweddar William Evans, Gerlan Bach, Clwt y Bont, Sir Gaernarfon: ac mae dau frawd a thair chwaer iddo yn Nghymru.
Yr oedd yn un o'r cymeriadau goreu fu yn ardal Slatington erioed. Pwy bynag fyddai yn absenol, byddai ef yno, a pharhaodd yn ffyddlon hyd y diwedd gan dderbyn "coron y bywyd."
Cafodd eglwys Salem golled fawr yn ei ymadawiad oblegid ei wasanaeth yn y cyfarfod gweddi, cyfarfod y plant, y seiat, yr ysgol Sul, a.y. Bu yn arolygwr cymeradwy yn yr ysgol am flwyddyn. Fel hyn yr oedd yn selog gyda phob gwaith da, fel y bu hefyd yn eglwys Dysgwylfa, Arfon, cyn ymfudo i'r wlad hon tua wyth mlynedd yn ôl. Os ydyw ei le yn wag, mae ei goffadwriaeth yn fendigedig; a dylai y bobi ieuanc a phawb ei efelychu.
Derbyniodd Mrs. Evans lythyrau o gydymdeimlad oddiwrth y Parch. R. E. Williams. Plymouth: John O. Jones, Wilkesbarre: John J. Williams, Olyphant, a.y. ac mae yn diolch iddynt hwy ac i bawb am bob caredigrwydd.
Cafodd Mr. Evans un o'r angladdau lluosocaf a pharchusaf: hawdd deall fod rhywun neillduol wedi cwympo yn Israel. Gweinyddwyd gan y Parch. John W. Morris ei weinidog; W. T. Williams (A.), a Henry Evans (B.), a chan y Knights of Pythias. Yr oedd rhyw eneiniad ar y gwasanaeth.