MRS. LAURA EVANS. AVOCA, LUZERNE COUNTY, PENNSYLVANIA.

Mehefin 11eg, 1894, yn Avoca, Luzerne County, Pennsylvania, Mrs. Laura Evans.

Cymerodd gwendid cyffredinol afael ynddi oddeutu tair blynedd yn ôl, ar ôl genedigaeth un bychan, a bu yn nychu yn ystod yr amser hirfaith, er holl allu meddygol yr ardaloedd, a gofal a thynerwch canmoladwy ei serchog briod, Edward Evans.

Ymfudodd Mr. a Mrs. Evans i'r wlad hon o Gwm y Glo, Gogledd Cymru, tua deuddeg mlynedd yn ôl, ac mae iddynt ddau o blant.

Hebryngwyd y rhan farwol o honi i fynwent y Presbyteriaid, Avoca, ar y 13eg gan nifer luosog o Gymry o Ashley, Wilkesbarre a Taylorville, ac yn eu plith amryw Wyddelod, a Saeson, a Scotiaid.

Gweinyddwyd wrth y tŷ, ac ar lan y bedd yn sylweddol ac addysgiadol gan y Parch. W. Jenkins, Wilkesbarre. Arweinydd y gân ydoedd y Proff. W. Amos.

Yr Arglwydd fyddo yn Dad yr amddifaid ac yn farnwr y weddw yn ei breswylfa santaidd.
ERYR FYCHAN.

Y Drych ~ Mehefin 21ain 1894.


MRS. LAURA EVANS. AVOCA, LUZERNE COUNTY, PENNSYLVANIA.

Mehefin 11eg, 1894, yn Avoca, Pennsylvania, yn 36 mlwydd oed, Mrs. Laura Evans, o wendid cyffredinol. Dyoddefodd gystudd poenus am yn agos i dair mlynedd.

Merch ydoedd i John a Catherine Prichard, Clwt-y-bont, Arfon, Gogledd Cymru.

Daeth i'r wlad yn 1883, ac yn Ashley a'r lle hwn y treuliodd y rhan fwyaf o'i amser.

Gadawodd ar ei hol briod serchus yn mherson E. Evans, a dau o blant bach anwyl. Mae iddi frawd a chwaer yn yr Hen Wlad, a brawd a chwaer yn y lle hwn.

Yr oedd yn nith i'r diweddar Dewi Peris Jones. Mehefin 13eg, daeth tyrfa barchus i'w hangladd.

Gweinyddwyd yn y tŷ ac wrth y bedd yn mynwent y Presbyteriaid gan y Parch. W. Jenkins (W.), Wilkesbarre. Canwyd yr hen emynau arferedig, Proffeswr G. Amos yn arwain.

Rhagluniaeth y nef a ofalo am ei phriod a'r rhai bach yw dymuniad calon pawb o'r ardalwyr.
OWAIN O FON.