MR. OWEN O. EVANS. 12TH STREET, CHICAGO, ILLINOIS.
Mai 22, 1894, yn 37 mlwydd oed, Mr. Owen O. Evans, 12th Street, Chicago, Illinois, ail fab Mr. a Mrs. Owen Evans, Bryn Pisgah, Sir Gaernarfon.Cafodd ef fel y plant eraill ddygiad crefyddol i fyny o'r fath oreu. Yr oedd ei dad yn ddiacon ffyddlon am flynyddau lawer yn eglwys Annibynol Pisgah, ac yr oedd yn ddiarebol ofalus am ddygiad ei blant i fyny yn iawn, a gwelir arwyddion o'r gofal hwnw ar ei holl blant. Pan yn ddeunaw oed aeth Owen at ei frawd hynaf, Robert, i Lerpwl, a chydag ef y dysgodd y grefft o naddu cenrrig (stone cutter), a thra bu yno bu yn aelod o eglwys Gynulleidfaol Grove Street.
Pan yma priododd â Miss Elizabeth Thomas, Caecacynod, Llanfechell, Môn. Bu iddynt dri o blant. Yn y flwyddyn 1887 bu farw ei wraig a'r plentyn ieuengaf, a chladdwyd y ddau yn mynwent Smithtown Lane, Lerpwl.
Daeth i America yn 1881, ond wedi aros yn Kansas City am tua blwyddyn dychwelodd yn ôl i Lerpwl er mwyn myned a'i blant at deulu eu mam, lle maent yn aros hyd heddyw. Daeth yn ol i'r wlad hon gan ddwyn ei dri brawd arall gydag ef, ac arosasant yn Kansas City am ychydig. Oddi yno aethant gyda'u gilydd i Omaha, lle yr ail briododd efe, a daethant i Chicago yn 1891. Yma y gorphenodd ei yrfa ddaearol.
Yr oedd efe fel ei frodyr Robert, John a David yn aelod o'r eglwys Annibynol Gymreig yn Sardis. Yr oedd yn ddyn dystaw, tawel, a charedig. Yn aros i alaru ar ei ôl mae ei briod a'i geneth fach, y ddau blentyn sydd heddyw heb na thad na mam, a'r tri brawd a'u teuluoedd, y rhai wedi dylyn eu gilydd er's 11awer o flynyddoedd: ond heddyw mae dolen o'r gadwyn wedi ei thori. Yr oedd y pedwar brawd yn naddwyr ceryg rhagorol, ac yr oedd efe wedi dechreu yn ddiweddar contractio ei hun mewn adeiladau; ond pan ydoedd llwyddiant fel yn dechreu gwenu arno, mae angeu yn ei gymeryd ffordd yr holl ddaear. Wedi rhyw ddwy wythnos o gystudd trwm, bu farw yn dawel yn mreichiau ei Waredwr.
Dydd Iau dylynol wedi gwasanaeth yn y tŷ, yn yr hwn y cymerwyd rhan gan y Parch. J. C. Jones, a'r ysgrifenydd, hebryngwyd ei weddillion marwol i'r adran Gymreig o fynwent Forest Home. Ar lan y bedd cymerwyd rhan o'r gwasanaeth gan Mr. O. Thomas, U. L. Iforaidd, o'r hon urdd yr oedd ein brawd yn aelod.
Boed Duw yn farnwr i'w weddw a thad i'w amddifaid.
TROGWY EVANS.