MRS. JANE GRIFFITH. ST. PAUL, MINNEAPOLIS, MINNESOTA.

Mawrth 25ain, 1894, yn St, Paul, Minnesota, yn 71 mlwydd oed, Mrs. Jane Griffith, anwyl briod John Griffith. Symudasant i'r wlad hon o Corris, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, tua 10 mlynedd yn ól, ac ymsefydlasant yn Utica, New York, lle yr oeddynt yn aelodau parchus yn eglwys y Parch. R. G. Jones, D. D.

Tua blwyddyn a haner yn ól symudasant at y plant i St. Paul, gan ymaelodi yn eglwys y T. C. yn Minneapolis. Y mae yr oll o'r plant yn fyw - mab a merch yn Utica, a thri mab yn St. Paul - a'r oll yn proffesu crefydd.

Magwyd Mrs. Griffith yn Machynlleth, Sir Drefaldwyn, ac yr oedd yn ferch i hen ddiacon adnabydaus iawn yn ei ddydd yn Machynlleth - John Williams, Pont-ar-Ddyfi. Y mae un chwaer iddi yn byw yn Burton-on- Trent, Derbyshire, Lloegr.

Bu ei phriod, John Griffith, yn gwasanaethu yn y swydd ddiaconaidd yn eglwys Salem, Corris, am lawer o flynyddoedd. Magwyd Mrs. Griffith gyda chrefydd, a bu fyw am oes faith yn ffyddlawn i'w phroffes, a chymerai ran amlwg a gweithgar gyda chrefydd. Pan yn ieuanc byddai yn hoff iawn o ganu. Canodd lawer mewn corau a chyda'r achos dirwestol yn Nghymru flynyddoedd yn ól. Yr oedd ei duwioldeb uwchlaw ameuaeth. Meddai synwyr cyffredin da, ac yr oedd yn gymeriad a hoffid yn fawr gan bawb a'i hadwaenai.

Bu farw yn nghanol ei theulu, gan fynegi fod breichiau y Gwaredwr yn ei chynal a'i bod yn myned i ddechreu seinio yr anthem "Iddo Ef, yr hwn a'n carodd ni." Dywedai y penill -

"Gwelaf graig a'm deil mewn stormydd
O gawodydd dwr a than," a.y.

Gweinyddwyd yn ei chladdedigaeth gan yr ysgrifenydd a gweinidog Presbyteraidd yn St. Paul.
JOS. ROBERTS.

Y Drych ~ Ebrill 12ed 1894.